MR. WILLIAM P. HUGHES. CHICAGO.
Mai 9fed, 1899, yn nhŷ Mr. Jamies Rice, Waukesha, Wisconsin, tra yno ar ymweliad am ei iechyd, y brawd anwyl a brwdfrydig, William P. Hughes, Chicago.Mab ydoedd i William a Catherine Hughes, Penybryn, Bethesda, Gogledd Cymru. Cafodd fanteisioin addysg rhagorol. Ar ôl treulio rhyw dymor mewn ysgol yn Liverpool, bu yn ngwasanaeth Greig Bros, ac yna gyda. R. Davies and Co., a gwnai ei gartref crefyddol yn eglwys Annibynol Park Road, dan fugeiliaeth y Parch. D. M. Jenkins.
Ymfudodd i'r America yn 1882, gan, ymslefydlu yn Kansas City, Missouri. Daeth i Chicago Ebrill 16eg, 1889, ac ymaelododd yn eglwys Hebron (M. C.). Bu am flynyddau yn gweithio yn swyddfa rheilffordd y Milwaukee and St. Paul, a chefais dystiolaeth bersonol prif swyddog yr adran y gweithiai ynddi ei fod yn llanw ei le gyda medrusrwydd a ffyldldllondeb.
Corff egwan oedd ganddo, a bregus oedd ei iechyd er's blynyddau. Dyoddlefai oddiwrth y diabetes, ac aeth i'r Presbyterian Hospital Tachwedd 4ydd, a bu dan operation yno Tachwedd; 18fed, ond er iddo wella digon i adael yr ysbyty Mawrth 11eg, 1899, ni allodd adenilll ei nerth cyntefig. Mai 5ed, anturiodd i Waukesha, gan obeithio y buasai dyfroedd mwnawl ac awyr iachus bryniau Wisconsin yn ei gryfhau. Yr ail ddiwrnod air ôl cyraedd yno, gwaethygodd, a'r pedwerydd dydd ehedodd ei ysbryd at Dduw.
Dygwyd ei gorff dranoeth i Chicago i'w gladdu yn adran y Cymry yn Forest Home Cemetery.
Daeth cynulliad lluosog yn nghyd i Hebron Mai 11eg, i ddangos eu parch i'w goffadwriaeth. Gwasanaethwyd yn y capel gan y cantorion a'r Parchn. William. H. Jones, South Chicago., a J. C. Jones, ac ar lan y bedd gan yr Iforiaid. a'r ddau weinidog.
Yr Arglwydd a dalo i Mr. a Mrs. Rice am eu caredigrwydd iddo yn ei ddyddiau olaf, ac a roddo gyfoeth ei addewidion i ddyddanu ei berthynasau anwyl a galarus yn Nghymru.
J. C. JONES.