MR. ELLIS E. HUMPHREY. FISH CREEK, WISCONSIN.
Bu farw Ellis E. Humphrey mewn canlyniad i gael ei daro gan y tren wrth groesi pont y Burlington Railroad yn La Crosse, Wisconsin, Awst 12fed, 1899.Ganwyd ef yn Llanegryn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Medi 20fed, 1813.
Yr oedd yn fab i John a Catherine Humphrey.
Daeth i'r wlad hon yn 1844, gan sefydlu yn Sir Oneida, New York. Yn 1852 ymbriododd â Miss Elizabeth Lloyd o'r un sir. Yn Ebrill, 1865, symudoidd efe a'i deulu i Fish Creek, Wisconsin. Ganwyd iddynt naw o blant, un o ba rai fu farw cyn gadael New York. Mae y gweddill yn fyw ac mewn amgylchiadau cysurus.
Diwrnod i'w gofio yn ardal Fish Creek ydoedd Ebrill 4ydd, 1872. Dyma'r diwrnod y bu Mrs. Humphrey farw, gan adael teulu mawr — priod ac wyth o blant - i alaru ar ôl gwraig ffyddlon a mam dyner ac anwyl. O hyny hyd ei farwolaeth ymgartrefai Mr. Humphrey gyda'i blant. Arosai gyda ei ferch henaf, Mrs. Silas Warren, La Crosse, pan fu farw.
Yr oedd Ellis E. Humphrey ym briod a thad tyner, yn gyfaill pur, yn gymydog tawel, a diacon o radd dda yn eglwys Fish Creek. Yr ydoedd yn ddyn hawdd ei drin. Gallasai a gwnai Mr. Humrphrey arwain, ond yr ydoedd yn ddigon mawr i gymeryd ei arwain pan fyddai galw am hyny. Yr oedd hefyd yn un hawdd ei gael — gallesid cyfrif arno. Mae yr eglwys yn ogystal a chymdieithas yn cael ei blino gan gymeriadau a adwaenwn heddyw, onid na wyddir yn y byd pa le y byddant, na pha beth a wnant neu a ddywedant yfory.
Mae cymeriaidau fel Mr. Humphrey, gan hyny, yn werth mawr i fyd ac eglwys. Tra yn meddu gwybodaeth gyffredinol helaeth, ac adnabyddiaeth ddofn o'r natur ddynol, yn yr Ysgrythyrau yn unig y byddai wrth ei fodd. Yr oedd wedi astudio cryn lawer ar yr Ysgrythyrau, ond yr oedd ei wybodaeth o gynwys y Beibl yn llawer mwy. Yr ydoedd ym fyfyriwr diwyd o'r Ysgrythyrau, a gallasai eu dyfynu at ei alwad, ond yn goron ar y cwbl yr ydoedd yn gredwr mawr yn ei wirioneddau.
Gallesid enwi rhagoriaethau eraill, ond gwnaiff hyn y tro i ddangos fod y teulu, yr eglwys, a chymdeithas yn gyffredinol ar ei mantais trwy fywyd, Ellis E. Humphrey, ac ond gochelyd ei feiau ac efelychu ei ragoriaethau gallwn eto fanteisioi arno.
Hebryngwyd y gweddillion i fynwent Fair Vieiw, Bangor, Awst 14eg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Henry Davies (A.) a'r ysgrifenydd.
H. W. Griffith.