MR. GRIFFITH HUMPHREY. FISH CREEK, WISCONSIN.

Mab Griffith Humphrey (1792-1851) a Laura Roberts Humphrey (1793-1876).

Find a Grave.


MR. GRIFFITH HUMPHREY. FISH CREEK, WISCONSIN.

Yn Burns, ger Sparta, Wisconsin, Mawrth 10fed, 1899, bu farw y blaenor o radd dda, Griffith. G. Humphrey.

Mab ydoedd i Griffith a Laura Humphrey. Ganwyd ef yn Llangwnadl, Lleyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn Mehefin, 1834. Yn y flwyddyn 1840 daeth y teulu, y tad a'r fam ac wyth o blant i'r wlad hon. Ymsefydlasant gyntaf yn Trenton, Oneida County, New York, yna yn Ninety Six, Remsen. Yn y flwyddyn 1852 symudodd gwrthrych ein cofiant i Utica, a dysgodd gwaith saer maen gyda Henry Lewis. Bu gyda Mr. Lewis hyd Ebrill, 1857, pryd yr aeth i La Crosse, Wisconsin. Yno ymbriododd â Miss Catharine Hughes, merch y diweddar Barch. John Hughes, a chwaer i'r Parch. David Hughes, Los Angeles, California. Yn fuan ar ôl hyn symudodd i Blue Earth County, Minnesota. Tra yma bu farw ei briod yn y flwyddyn 1862, gan ei adael ef a dau fachgen, John H. sydd yn byw yn awr yn Los Angeles, California, a Charles G. sydd yn byw yn awr yn Lake Crystal, Minnesota.

Yn fuan ar ol helynt yr Indiaid yn y flwyddyn 1863 daeth ein brawd i Bangor, Wisconsin, i ymweled a'i fam a'i chwaer, ac yn lle dychwelyd i Minnesota, fel y bwriadai, arhosodd yn Bangor a'r cyffiniau weddill ei oes. Ar y 27ain o Chwefror, 1866, ymbriododd â Miss Catherine Meredith, yn Cambria, Wisconsin, a'r diweddar Barch. Rees Evans yn gweinyddu. Ganwyd iddynt bedwar o blant: Laura J., Evan, Mary a Meredith, y rhai gyda eu mam sydd yn byw yn Big Creek, Wisconsin, mewn galar dwys ar ôl priod ffyddlon a thad serchog.

Ymunodd ag eglwys y M. C. ar Seneca Street, Utica, New York yn y flwyddyn 1854. Teg ydyw casglu fod rhywbeth cryf ar ei feddwl pan yr ymunodd a'r eglwys yn yr oedran yn mha un y mae cymaint o ddynion ieuainc yn pellhau o'r eglwys yr hytrach nag yn ceisio lle ynddi. Parhaodd i gynyddu mewn cymeriad Cristionogol yn y blynyddoedd hyny, oblegid ni gawn i'r eglwys yn South Eend, Minnesota, ei ddewis yn flaenor yn y flwyddyn 1860. Nid ymgymerodd a' r swydd, fodd bynag, am y teimlai ei fod yn rhy ieuanc a dibrofiad i'r fath swydd bwysig yn eglwys Dduw. Ond bu yn edifar ganddo lawer gwaith am na fuasai wedi ufuddhau, yn lle ymddwyn fel llwfrddyn yn ngwyneb cyfrifoldeb a roddai y Meistr arno, a phan y galwyd ef gan eglwys y M. C. yn Fish Creek i fod yn flaenor ufuddhaodd i'w chais, a bu yn ffyddlon yn ôl ei amgylchiadau.

Trwy ei ddiwydrwydd yn diwyllio ei feddwl, a thrwy grefyddolder ei ysbryd, enillodd ymddiriedaeth ei gydnabod yn mhob man. Yr oedd yn ddinesydd Americanaidd cywir iawn. Gwerinwr selog ydoedd, gan ogwyddo yn gryf i gynorthwyo y blaid Waharddol yn mhob symudiad dirwestol lleol. Bu yn gweithredu ar y Board of Supervisors yn Butternut Valley, Minnesota, ac yn Burns, Wisconsin, am flynyddoedd.

Cafodd cyfundrefn addysgol ein gwlad lawer o gefnogaeth a gwasanaeth ganddo. Bu yn Clerk y District School y perthynai iddo am 25 o flynyddoedd.

Nid oedd gan y Gymdeithas Feiblaidd leol yn Bangor a Fish Creek neb oedd yn fwy pur iddi nag efe, i'r hon y bu yn ysgrifenydd am 17 o flynyddoedd. Nodweddid ef, fel ei frodyr John a Robert, mewn sel tros yr achos dirwestol. Y mae teulu cyfan weithiau yn cael eu hynodi trwy eu sel dros ryw un peth arbenig. Yr un peth hwnw yn y teulu oedd glynu yn gedyrn yn yr athrawiaeth dirwestol, gan fod yn oleuadau dysglaer mewn llwyrymwrthodiad oddiwrth y diodydd meddwol. Bu ein brawd yn aelod o'r Good Templars am dros 36 o flynyddoedd.

Fel y cyfeiriwyd uchod, daeth yn un o'r dynion ag y mynai yr eglwys ei neillduo i safleoedd o ymddiriedaeth. Heblaw cael ei ddewis yn flaenor, bu yn ysgrifenydd yr eglwys am dros 30 o flynyddoedd. Fel hyn gwelwn mai un o'i nodweddion amlwg ydoedd ei deilyngdod i ymddiried ynddo. Nodweddiad gwerthfawr ac anwyl iawn ydyw hwn.

Er llenwi cymaint o swyddau yn a thu allan i'r eglwys, nid oedd y bobl rywsut yn meddwl am hyny. Yr oedd yn un mor ddiymhongar yn y swyddau, ac yn un mor gymwys i'r swyddau, fel nad oedd cymdeithas ond prin yn gwybod ei fod yn swyddog. Pan y mae y peiriant yn gweithio yn esmwyth a llwyddianus, y mae pob olwyn yn ei lle, ac yn gymwys i'w lle. A phan y mae pob aelod mewn cymdeithas yn ei le, ac yn gymwys i'w le, fe â cymdeithas yn mlaen mor unol fel na bydd i un aelod dynu mwy o sylw na'r llall. Yr oedd ein brawd yn ei le, ac mor gymwys i'w le, fel nad oedd yn tynu sylw neb yn un man. Perthynai ein brawd mewn modd arbenig iawn i'r dosbarth goreu, yr arloeswyr (pioneers) cyntaf. Nis gallwn byth wybod gwerth yr etifeddiaeth ddaeth i ni trwy eu diwydrwydd gyda'r byd, o herwydd eu sel dros y sefydliadau Americanaidd, a'u cymeriadau Cristionogol.

Bu yn wael am yn agos i flwyddyn. Dyoddefodd ei gystudd yn dawel a di-rwgnach, gan ymostwng yn addolgar i ewyllys ei Dad nefol. Sylweddolai er's wythnosau fod awr ei ymddatodiad yn nesau, ond dangosodd i bawb pa fodd y gall dyn duwiol farw. "Ni frysia yr hwn a gredo."

Dydd Llun, Mawrth 13eg, 1899, ymgasglodd tyrfa fawr i hebrwng ei gorff i dŷ ei hir gartref. Gweinyddwyd gan y Parchn. D. Williams, La Crosse, a Davies, Bangor. Pregethwyd y bregeth angladdol yn Fish Creek Mawrth 26ain, 1899, gan yr ysgrifenydd. Nawdd Barnwr y gweddwon a Thad yr amddifad a fyddo dros y teulu anwyl hwn yn eu galar mawr.
R. T. ROBERTS, RACINE.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1899.


MR. GRIFFITH HUMPHREY. FISH CREEK, WISCONSIN.

I, Griffith G, Humphreys of the toen of Burns in the County of LaCrosse, being of sound mind and memory and mindful of the uncertainties of human life do make, publish and declare this my last Will and Testament, hereby revoking any and all Wills heretofore made by me.

First : I give and bequeath to my son John Humphreys now residing at Los Angeles, California the sum of two hundred dollars. I also give and bequeath to my son Charles Davis, the sum of one dollar, said sums to be paid by my wife hereinafter named.

Second : After the payments of my just debts and funeral expenses, I give and bequeath and devise to my wife Catherine Humphreys, the use benefit and control of all my property of every name and nature, of which I do seize or possessed for and during the period of her natural life.

Third : I give and bequeath to my daughter Laura Davis, wife of Burton Davis and Mary E. Humphreys, each a sum of money equal to one eighths (1/8) of all my estate remaining at the death of my wife aforesaid, the same to be paid as herein after provided.

Fourth : I give, devise and bequeath to my sons Evan Humphreys and Meredith Humphreys all the rest and residue of my estate remaining at the death of my wife as aforesaid subject to the payment of the last mentioned legacies, within a period of not less than two years from the death of my wife aforesaid.

Fifth : I hereby nominate and appoint Evan Humphreys and Burton Davis, the executors of this my last Will and Testament, hereby empowering them to compound, compromise and settle any and all claims in favor of or against my said estate.

In witness whereof, I have hereunder set my hand and seal this 20th of June, 1898.
Griffith G. Humphreys.

Signed, sealed, published and declared by the said Griffith Humphreys as and for his last Will and Testament in the presence of us who at his request in his presence, and in the presence of each other have hereunto subscribed our names as attesting witnesses.
D. J. Jones, Sparta.
E. R. Bauer, Sparta.

Wisconsin Wills ~ La Crosse 1895-1902.