MRS. ANN JONES. RACINE, WISCONSIN.

Mawrth 25ain, 1899, yn Racine, Wisconsin, o'r darfodedigaeth, yn 30 mlwydd oed, Ann, priod Lewis Jones. Cafodd afiechyd maith a chaled, yr hwn, a ddyoddefodd mewn tawelwch ac amynedd. Heblaw ei phriod, gadawodd eneth fechan ddwy flwydd oed ar ei hol. Ganed hi yn Nantcobach, plwyf Llanfihangel y Pennant, ger Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru.

Bu ei thad farw yn ddiweddar yn Nghymru, ond y mae ei mam, amryw frodyr, a chwaer iddi yn fyw yno. Daeth i'r America tua deng mlynedd yn ôl, a threuliodd y rhan fwyaf o'i hamser yn Chicago a Racine. Cafodd gystudd maith, a bu ei phriod ar yr un adeg hefyd yn wael iawn am fisoedd, felly barnodd y meddygon y buasai yn ddoeth ei chymeryd i'r ysbyty er mwyn cael y gofal goreu ag oedd yn bosibl, ond nid oedd modd atal yr afiechyd ag oedd wedi ymaflyd ym ei chyfansoddiad.

Buasai yn caru byw er mwyn ei phriod a'i geneth fach, ond ymostyngai yn dawel i ewyllys yr Arglwydd. Yr oedd yn aelod eglwysig gyda y T. C., ac yn ffyddlon i achos crefydd tra y parhaodd ei nerth. Nid oes ameuaeth na ddarfu iddi ddianc o afael pob afiechyd a phoen, i gyd-fyw gyda ei Phrynwr yn oes oesoedd.

Cafodd gladdedigaeth lluosog a pharchus ar y 29ain cyfisol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. R. T. Roberts, M. A., Racine, a Robert Humphreys, Chicago.

Bydded amddiffvn y nefoedd dros ei phriod galarus, a'i geneth fach amddifad.

Y Drych ~ Ebrill 13eg 1899.