MRS. CATHERINE JONES. 159 WHITESBORO STREET, UTICA, NEW YORK.
Gorphenaf 20fed, 1899, yn ei chartref, 159 Whitesboro Street, Utica, New York, ar ôl byr salwch, Mrs. Catherine Jones, o ddarfodedigaeth y cefn, yn 63 oed.Ganwyd hi yn Dolgellau, Gogledd Cymru, ac ymfudodd i'r wlad hon yn 1849. Bu byw am dymor y tu allan i Utica, ond treuliodd y gweddill o'i hoes yn y ddinas.
Merch oedd i'r diweddar Barch. Humphrey Humphreys a Mary ei briod.
Ymbriododd yn gyntaf â Jesse Evans, South Trenton, yn Pittsburg, Pennsylvania, yn 1855; ac aethant i fyw i St. Louis, Missouri, lle bu efe farw yn 1872. Ymbriododd hi yr ail waith â John W. Jones, golygydd y "Drych." yr hwn a fu farw yn 1884.
Yr oedd Mrs. Jones yn aelod gyda'r Wesleyaid Cymreig yn Utica, ac yn ei blynyddoedd boreuol yn gryn gantores, ac yn cymeryd rhan mewn Eisteddfodau.
Gedy hi dri brawd : Isaac Humphreys, Richfield Springs, Humphrey Humphreys, Rochester; ac Evan Humphreys, Chicago. Hefyd un chwaer, Mrs. Thomas H. Jones, Elm Street, Utica; un ferch, Miss Stella Evans, ac un mab, John H. Evans.
Claddwyd hi ddydd Sul yn breifat.