MRS. ELLEN JONES. RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Gwraig Mr. Thomas G. Jones, Vermont.Merch ydyw i Griffith ac Elizabeth Williams, Penyclogwyn, plwyf Llanfihangel y Pennant, Arfon.
Ganwyd hi yn y flwyddyn 1820.
Tiriodd yn New York Gorffennaf 22ain, 1854.
Yr oedd yn canu gyda "Chôr Vermont" yn Eisteddfod Utica, Ionawr 1af, 1857. Canasant ddarnau y tro hwnw yn Utica, a'r cylchoedd, nad anghofir hwy yn yr oes hon. - "Dewch at ddirwest, dirwest, dirwest, " a.y.
Hanes Cymry America.
MRS. ELLEN JONES. RUTLAND COUNTY, VERMONT.
YR HEN SEFYDLWYR YN EIN GADAEL.
Fair Haven, Vermont, Ebrill 29ain. Wrth edrych yn ol ryw 45 o flynyddoedd, gwelwn yn amlwg fod nifer y Cymry oedd yn byw yn yr ardal hon y pryd hwnw erbyn hyn yn lled fychan. Mae y naill ar ol y llall yn cael eu cymeryd ymaith i'r byd arall, a'r ddiweddaf yw yr hen Mrs. Jones (Llwynbedw). Yr oedd yr hen wraig yn teimio yn lled wanaidd ers cryn amser a rhyw ddeg diwrnod cyn ei marwolaeth, cymerwyd hi yn sal yn sydyn, fel y gwaelodd y naill ddydd ar ol y llall, a bore dydd Llun yr 17eg, bu farw yn dawel.Claddwyd hi y dydd Mercher canlynol, pryd y gweinyddwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan ddau weinidog yr ardal, Thomas a Williams, Cafodd yr hen Mrs. Jones gladdedigaeth hynod barchus. Yr oedd pawb fel am y goreu yn talu parch hyd yn nod i'w gweddillion, ac yn neillduol felly y cantorion.
Yr oedd yr ymadawedig wedi gadael ei 78 mlwydd; eed. Daeth i'r wlad hon o ardal Llanberis gyda'i gwr ac un bachgen yn 1854, gan ymsefydlu a byw yn yr ardal hon hyd ei marwolaeth.
Bu Griffith ei mab farw er oddeutu 23 o flynyddoedd; yn ol, priod yr hwn oedd ferch i Thomas L. Davies. New York Mills, New York. Wedi hyny bu Thomas Jones ei gwr farw ers yn agos i 15 mlynedd yn ol. Yr oedd ef yn frawd i'r diweddar Barch. Wm. Jones, Llanberis. Erbyn hyn, dyma y ddiweddaf o'r teulu. Wedi colli ei mab a'i gwr (yr hwn; oedd ei hunig anedig), yr oedd yr hen wraig yn hollol unig ac amddifad, heb yr un berthynas yn yr ardal, a dim ond ychydig iawn mewn unrhyw ardal arall, ac felly yr oedd ar ddydd ei chladdedigaeth, ni chafodd yr un berthynas iddi y fraint o'i gweled yn cael ei rhoddi i orphwys yn y bedd.
Ar ol colli ei hanwyliaid bu yr hen Mrs. Jones yn cartrefu gyda gwahanol deuluoedd yr ardal a'r teulu diweddaf y bu gyda hwy ydyw John O. Jones a'i briod, y rhai fuont yn hynod dyner a chareidig wrthi, a haeddant ac y maent yn cael parch mawr am hyny. Mae yn dda genyf allu tystio y cafodd yr hen Mrs. Jones bob chware teg a allai baich o gwnawd estyn iddi. Ni bu yr hen chwaer hon erioed yn feddianol ar lawer o gyfoeth y byd hwn, ond y mae ei bywyd dichlynaidd yn tystio yn gryf ei bod yn gyfoethog mewn pethau ysbrydol.Ei rhinweddau mwyaf amlwg oeddynt ei synwyr cyffredin. Yr oedd yn gryf yn y gras hwn; hefyd yr oedd yn hollol ddiabsen am bawb. Os na byddai ganddi rywbeth yn dda, i'w ddweyd am ei chymydogion ni ddywedai ddim am danynt; ac yn wir dylem ninau bawb sydd yn fyw ar ei hol ei hefelychu yn ei rhinweddau gwerthfawr hyn.
Yr oedd yr hen Mrs. Jones yn gantores swynol iawn yn ei dydd. Clywsom hi yn canu yn swynol mewn Eisteddfodau yma. Yr oedd hi, ei gwr, a'i bachgen ar esgynlawr Eisteddfod Utica yn canu yn 1857.
GAN W. M. OWEN, FAIR HAVEN, VERMONT.