MRS. ELLENOR PRITCHARD JONES. CAMBRIA, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
Ionawr 19eg, 1899, yn nhy ei merch a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. Enoch Price, Cambria, Minnesota, Mrs. Ellis Jones, yn dra disymwth. Ni bu yn wael ond am ychydig ddyddiau.Yn ol tystioilaeth y meddyg, yr achos uniongyrchol o'i mlarwolaeth oedd heart failure, er ei bod yn dyoddef ar y pryd oddiiwrth pneumonia.
Dydd Gwener symudwyd y corff o dŷ Mr. Price i gartref yr ymadawedig, ac yno y bu hyd brydnawn Sabboth, yr 22ain, pryd y cymerodd yr angladd le. Yn absonoldeb yr ysgrifenydd, yr hwn oedd ar y pryd; yn Lime Spring, Iowa, gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. Edwards, Lake Crystal.
Ganwyd Mrs. Jones yn ardal Waenfawr, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1832, felly yr oedd yn 67 mlwydd oed pan fu farw. Pan yn ddeuddeg oed symudodd gyda'i theulu i ardal Proscairon, Wisconsin.
Yn 1856 ymunodd mewn priodas a'i diweddar briod, Mr. Ellis Jones, a buont yn byw yn agos i Cambria, Wisconsin, hyd nes y symudasant i Minnesota yn 1864. Bu iddynt naw o blant, o ba rai y mae pedwar yn fyw - dau o feibion a dwy o ferched. Y meibion ydynt William. P. Jones a John F. Jones, a'r merehed ydynt Mrs. Evan J. Davies a Mrs. Enoch Price, a'r oll yn byw yn Cambria, Minnesota. Heblaw: y perthynasau hyn, gadawodd ein hanwyl chwaer fam oedranus i alaru ar ei hol yn Randolph, Wisconsin; hefyd, y mae dwy chwaer a dau frawd iddi yn byw yn y Dalaeth hono.
Gweithiodd Mrs. Jones yn galed am lawer blwyddyn, a bendithiodd yr Arglwydd ei hymdrechion hi a'i phlant i raddau helaeth iawn, Yr oedd, yn aelod ffyddlon o eglwys Horeb, a theimlir colled ar ei hol. Ei phrif nodweddion oeddynt y rhai canlynol:
1. Tymer siriol;
2. Ffyddlondeb i'w chyfeillion;
3. Parodrwydd i wneyd a allai gydag achos crefydd.
Y Sabboth cyntaf yn Chwefror traddodwyd pregeth angladdol iddi gan yr ysgrifenydd oddiar 1 Thes. 4: 13-18. Bendith yr Arglwydd a orphwyso etc ar ei phlant a'i pherthynasau oll.
R. V. G.