MR. JOHN M. JONES. BLANDINA PLACE, UTICA COUNTY, NEW YORK.

Awst 31ain, 1899, yn Blandina Utica, New York, mewn, canlyniad i ergyd o'r parlys, John M. Jones, hen ddinesydd parchus ac adnabyddus, yn 72 oed. Ychydig amser yn ôl cafodd ergyd ysgafn, ac ymddangosai fel pe yn ymadferyd; ond tarawyd ef eilwaith a gwaethygodd o hyny allan.

Ganwyd ef y Carmel, yn agos i Dolgellau, Gogledd Cymru.

Ymbriododd â Margaret Williams yn 1853 ac yn 1871 ymfudodd i'r wlad hon. Bu yn amaethu yn Marcy am flynyddau cyn ymsefydlu yn Utica, lle y trigodd ei farwolaeth.

Yr oedd yn aelod o eglwys Annibynol Bethesda, ac yn ŵr gweithgar a diniwed, ac yn barchus gan ei gymydogion a'i gydnabod.

Gedy weddw a thri o blant: William, M Jones, St Paul, Minnesota, John Jones a Mrs. John W. Jones, Utica; a chwaer a brawd yn Lerpwl, a chwaer yn Carmel, ei hen gartref.

Y Drych ~ Medi 7fed 1899.