MRS. MAGDALEN JONES. OAK HILL, JACKSON COUNTY, OHIO.

Gorphenaf 7fed, 1899, yn Oak Hill, swydd Jackson, Ohio, Mrs. Magdalen Jones, priod Mr. Morris D. Jones, ar ôl rhai misoedd o nychdod, ond byr gystudd. Y darfodedigaeth gweniaethus a yfodd ffynonau ei bywyd, nes eu llwyr ddihysbyddu.

Merch ydoedd i Robert Richards a'i briod, Llanymawddwy, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Ganwyd hi Chwefror 11eg, 1860. Bu farw ei mam pan ydoedd hi yn dra ieuanc, ac o herwydd fod ei chwiorydd hynaf wedi priodi, disgynodd i'w rhan hi ofalu am y tŷ, a phedwar o blant ieuengach na hi.

Mawrth 6ed, 1880, priododd gyda Mr. Morris D. Jones, o'r gymydogaeth hono, ac yn Mehefin y flwyddyn ganlynol, ymfudasant i America, gan ymsefydlu yn Oak Hill, lle yr oedd brawd i Mr. Jones, sef y presenol Barch. Rowland Jones, Newark, M. C., wedi ymsefydlu rhyw flwyddyn cyn hyny.

Daethant yma i fyw, ond marw fu raid i Mrs. Jones yn nghanol bywyd o ddefnyddioldeb mewn byd ac eglwys. Ymunodd â chrefydd gyda'r Annibynwyr yn Llanymawddwy, dan weinidogaeth y gweinidog da, y Parch. Edward Williams o Ddinas Mawddwy, a pharhaodd yn ddiargyhoedd a dysglaer yn eglwys Dduw gyda'r un enwad. Y blynyddoedd diweddaf yr oedd ei gofal teuluaidd yn fawr, ond yn ngwyneb y cwbl un tra ffyddlawn ac ymdrechgar ydoedd hi gyda chyflawniadau allanol crefydd - nid yn unig ar y Sabboth, ond yn anaml y teimlid ei cholled yn y cyfarfodydd gweddi a'r cyfeillachau crefyddol.

Gadawodd briod tyner a saith o blant - pedair merch, a thri bachgen, mewn galar dwys ar ei hol. Dydd ei hangladd, sef Gorphenaf 10fed, ymgasglodd tyrfa fawr i dalu y gydnabyddiaeth olaf iddi.

Claddwyd hi mewn llecyn prydferth yn mynwent yr Annibynwyr, pryd y gweinyddwyd gan weinidog y teulu, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. Hugh Jones, a David Thomas, M. C. Ymadawyd a'i bedd mewn gobaith y caiff godi "yn ei gynau gwynion, ac ar ei newydd wedd" fore yr adgyfodiad mawr.
CALEB SAMSON.

Y Drych ~ Gorphenaf 27ain 1899.