MRS. MARY E. JONES. ROUND VALLEY, CALIFORNIA.
Mehefin 9fed, 1899, yn Round Valley, California, Mrs. Mary E. Jones, gweddw J. E. Jones, yn 77 mlwydd, 10 mis a 21 diwrnod oed. Ganwyd Mrs. Jones yn Beddgelert.Er pan yr ymfudodd i'r wl;ad hon ac y croesodd anialwch y gorllewin mewn wagen, gyda gŵr claf a thri o blant, gwelodd Mrs. Jones lawer o galedi, ond trwy y cyfan meddianodd ei hun mewn amynedd.
Symudodd ei phriod o Nevada i Owens Valley yn 1864, a'r flwyddyn ganlynol dylynwyd ef gan ei deulu; ac yno y buont yn arwain bywyd diwyd, gan enill parch gan bawb ar gyfrif eu lletygarwch a'u natur dda.
Daliodd Mrs. Jones y brofedigaeth chwerw o golli ei phriod gydag ymostyngiad Cristion; a bu fyw i oedran gteg, yn wraig rinweddol a mam gariadus, ddarbodus. Cafodd iechyd rhagorol hyd nes iddi gael ei pharlysu agos ddwy flynedd yn ôl. Dyoddefodd ei chystudd olaf yn hynod dawel, gan dderbyn y gofal tyneraf gan ei phlant. Bu yn derbyn y "Drych" am flynyddau meithion; ac hyd ei gwaeledd olaf yn parhau i gymeryd dyddordeb yn helyntion ei chenedl yma ac yn ngwlad ei genedigaeth.