WILLIAM E. JONES, MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Ganwyd Mr. Jones yn Beddgelert, Sir Gaernarfon, G. C. Mab ydoedd i Ellis a Catherine Jones. Yr oedd yn un o dri o blant, sef Ann, William ac Eleaser. Yr oedd y rhieni yn oael eu hystyried yn bobl hynod dduwiol, a gwnaetbant eu rhan at ddwyn eu plant i fyny yn ofn yr Arglwydd. Bu y tad farw pan oedd y plant yn ieuainc, ac felly y gorfu i'r plant ddeehreu gwneyd drostynt eu hunain pan yn lled foreu ar eu hoes.

Bu William yn gweithio yn y gwaith mwn yn ei ardal enedigol, hyd nes oedd tuag ugain oed, pryd y symudodd i Bethesda, a bu yno yn gweithio yn y chwarel am rai blynyddoedd. Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1844. Sefydlodd ar y dechreu yn Floyd, Oneida Co., N. Y.

Yno y priododd, ac yno y ganwyd ei blant. Mae dau o'r plant ya fyw, sef Mrs. Daniel Thomas, Emporia Kansas; a David Jones, Chicago. Illinois, pa rai sydd mewn galar ar ôl tad tyner a gofalus iawn.

Y lle nesaf yr ydym yn cael Mr. Jones ydoedd yn Slatington, Pennsylvania. Yno yn y flwyddyn 1854 y dechreuodd bregethu, a bu yn bregethwr cymeradwy am amser; ac nid dim yn ei fywyd na'i ymarweddiad oedd yn galw am iddo roddi i fyny bregethu. Ŷn nesaf cawn ef yn Middle Granville, N. Y., lle y treuliodd weddill ei oes, ond yr ychydig amser y bu yn Kansas. Ffurfiodd ef a'i frawd Mr Eleaser Jones, ac eraill, gwmni yn Middle Granville, i agor chwarelau, ac adeiladu melin i lifio ceryg y llechfaen. Yr oeddynt yn cadw lluaws mawr o ddynion i weithio yn y naill a'r llall.

Yn y flwyddyn 1857 daeth panic arianol dros y wlad, gan ddal y cwmni hwn yn ei fabandod, a gwelsant amser caled iawn. Yn mhen tua thair blynedd ar ôl y panic, daeth y rhyfel cartrefol, gan niweidio masnach y llechi, a dyoddefodd cwmni y Penrhyn yn Middle Granville ail galedi; ond ar ddiwedd y rhyfel caed amser gwell, a daeth y brodyr W. E. ac Eleaser Jones allan o'r pair yn wir anrhydeddus, gan dalu i bawb o'u gofynwyr yn llawn, dolar am ddolar, ac o hyny allan buont yn llwyddianus fel masnachwyr a goruchwylwyr.

Ar ôl rhoi y goreu i bregethu, bu Mr. W. E. Jones yn aelod cyffredin o'r eglwys am ysbaid, gan ymroddi a'i holl egni o blaid yr achos; a dewiswyd ef yn flaenor, a chyflawnodd ei swydd gyda'r ffyddlondeb mwyaf oedd yn bosibl hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd ef yn un o sefydiwyr yr eglwys hon, a hyny 45 o flynyddoedd yn ôl; ac ni bu un bwlch yn ei ffyddlondeb gyda'r achos yn ystod yr holl amser. Fel cyfranwr, yr oedd ar y blaen; nid cymell eraill a pheidio gwneyd ei hun; ond gwneyd ei hun, ac yna cymell eraill.

Bu yn un o dderbynwyr y "Cyfaìll" am dros haner can mlynedd, a byddai bob amser yn awyddus am ei lwyddiant. Yr oedd hefyd yn un oedd yn rhoi ei holl ddylanwad o blaid y weinidogaeth. Bu yn un o'r rhai mwyaf cefnogol a pharod i ddal i fyny y gweinidogion fu yn gwasanaethu yr eglwysi yn nghylch Middle GranviMe. Syrthiodd mewn cariad ag Emporia, Kansas, flynyddau yn ôl, a symudodd yno i fyw, a phrynodd dir yno. Gwnaeth lawer o gyfeillion yno. Yr oedd yr eglwys yno ac yntau ar y telerau goreu. Yr oedd ei hen gyfaill y Parch. John Jones yn weinidog ar yr eglwys yno ar y pryd. a dichon fod hyny yn gymaint a dim arall i'w ddenu ef a'i briod i symud yno. Ni bu dau erioed yn fwy hoff o'u gilydd nag ydoedd y Parch. John Jones a W. E. Jones. Ond ni fu ei arosiad yn Emporia yn hir; daeth yn ôl i Middle Granville, ac yr oedd yn dda gan ei hen frodyr a'i gyfeillion ei weled. Bu yn hynod ffyddlon a defnyddiol gyda'r achos o hyny hyd y diwedd. Cafodd iechyd lled dda hyd Hydref 25ain, 1897, pryd y cafodd ergyd o'r parlys, yr hyn a wnaeth ei ôl yn fawr arno: ond chafodd fyw hyd yr 22ain o Tachwedd. 1898.

Derbyniodd bob gofal oedd yn bosib! gan ei anwyl briod, a hyny yn y modd mwyaf manwl, gan gael dynion cyflogedig i ofalu amdano nos a dydd. Tachwedd 26ain, ymgasglodd tyrfa fawr i arddangos eu parch a'u hedmygedd i un oedd wedi byw am amser maith yn eu plith. Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth gan y Parchn. John Williams, Granville, N. Y., a John Jones, Emporia, Kansas, yr hwn oedd wedi teithio pymtheg cant o filldiroedd i dalu y gymwynas olaf i'w hen gyfaill. Bu ei briod, Mrs. Jones, yn wael iawn, wedi gorwneyd, yn ei gofal a'i phryder, a hyny am amser maith; ond da genym ei gweled wedi cael adferiad iechyd, er mewn galar dwys ar ôl ei hainwyl briod.

Y CYFAILL O'R HEN WLAD ~ Mehefin 1899.