MR. EDWARD LEWIS. QUAKER'S HILL, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Yr oedd David yn un o dri o frodyr adnabyddus iawn yn Sir Oneida fel colofnau cedyrn dan achos y Gwaredwr gyda'r T. C, John o Floyd, David o Frankfort Hill, ac Edward o Quaker Hill.Yr oedd John yn ddiacon ffyddlon a dtefnyddiol yn eglwys Floyd, ond bu ef farw yn nghanol ei ddyddiau, ei nerth a'i ddefnyddioldeb, yn 1876, yn 59 mlwydd oed. David oedd y nesaf i'w ddylyn yn ffordd yr holl ddaear. Bu ef farw yn Utica, Medi 7fed, 1898, mewn oedran teg, o fewn ychydig ddyddiau i 80 oed. Edward oedd yr olaf, a bu farw Ionawr 7fed, 1899, ar Quaker Hill, Sir Oneida, New York yn 87 mlwydd a chwe mis oed.
Daeth ef i'r wlad hon yn 1838, ac ymsefydlodd ar Webster Hill. Yno yn 1841 ymbriododd a Jane, merch William ac Elizabeth Roberts. Wedi hyn symudodd i Quaker Hill, lle y trigodd hyd ar ol marwolaeth ei briod yn 1865, oddieithr ychydig flynyddau y bu ym Westmoreland. Aeth yntau hefyd ar ol hyn i Kansas, lle y trigodd am ddeng mlynedd, ac yna dychwelodd yn ol i Sir Oneida, lle gorphenodd ei yrfa daearol.
Bu yn briod deir gwaith, ond diygwyddodd iddo yntau fel aml un o'i flaen pan oedd mwyaf eu hangen nid oedd yr un ar gael, ond derbyniodd bob gofal a charedigrwydd oddiar law ei blant yn ngweddwdod ei henaint, William o Rome, ac Elizabeth (Mrs J. E. Jones), Quaker Hill, lle y bu farw.
Efe ydoedd yr hynaf o'r tri, ond efe a'u goroesodd oll er hyny. Yr oedd yntau yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd yn flaenor ac arweinydd y gan yn Quaker Hill er pan ydym yn ei gofio. Aelod a swyddog yn eglwys Rome ydoedd pan fu farw, am fod y Cymry wedi ymadlael o eglwys Quaker Hill, fel nad oedd moddion mwyach yno yn cael eu cynal yn Gymraeg.
Claddwyd ef yn ymyl ei briod gyntaf yn mynwent Quaker Hill, yn agos i'r capel. Gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd. Bu iddo bump o blant, onid nid oes ond pedwar yn fyw, William o Rome, Elizabeth o Quaker Hill, David o Kansas, ac Annie o Iowa. Gyda theimladau hiraethlon yr ydym yn adgofio am y cedyrn hyn, gan ofyn, "Ein tadau, pa le y maent hwy?"
John H. Jones.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1899.
MR. EDWARD LEWIS. QUAKER'S HILL, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
lonawr 7fed, 1899, ar Quakers Hill, Sir Oneida, New. York, Edward Lewis, yn 87 mlwydd a chwe mis oed.Brodor ydoedd o ardal y Bala. Daeth i'r wlad hon yn 1838, ac ymsefydlodd yn Sir Oneida. Bu fyw y blynyddoedd cyntaf ar Webster Hill, ac yno yn 1841 yr ymbriododd â Jane, merch Wiilliam ac Elizabeth Roberts.
Symudodd i Quaker, lle y preswyliodd hyd ar ôl marwolaeith ei wraig yn 1865, oddieithr ychydig flynyddoedd y bu yn Westmoreland. Ar ôl hyn aeth i Kansas, lle y trigodd am ddeg mlynedd, yna dychwelodd yn ôl i Sir Oneida, lle y gorphenodd ei yrfa ddaearol.
Bu yn briod deirgwaith, ond gweddw ydoedd er hyny er's llawer o flynyddoedd, a chyda'i blant y bu fyw y rhan olaf o'i oes, gyda William yn Rome, ac Elizabeth (Mrs. J. E. Jones) yn Quaker Hill, a derbyniodd bob gofal a charedigrwydd teilwng o blant at eu tad yn nyddiau blinion henaint.
Hynaf ydoedd o dri o frodyr fu yn eu dydd yn golofnau dan achos y Gwaredwr yn Sir Oneida, John o Floyd, a David o Frankfort Hill, ac yn ddiweddarach o Utica. Bu John farw yn 1876, yn nghanol ei nerth a'i ddefnyddioldeb. Yr oedd yn flaenor defnyddiol yn Floyd. Bu David farw yn Utica yn 1898, mewn oedran teg. Yr oedd yntau yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau. Bu yn ddefnyddiol gyda'r ysgol Sabbothol, ac yn ngherddoriaeth y cysegr. Ond er mai Edward ydoedd yr hynaf, efe a oroesodd ei holl frodyr. Yr oedd yntau yn flaenor er pan ydym yn ei gofio, ac yn arweinydd y canu. Aelod a swyddog yn eglwys y T. C. yn Rome ydoedd pan fu farw, am fod y Cymry wedi ymadael o Quaker Hill, ac nid oes yno eglwys mwy.
Claddwyd ef yn mynwent Quaker Hill, yn agos i'r capel, lle y gorwedd corff ei briod gyntaf. Gweinyddwyd gan yr ysgrifnydd. Bu iddo bump o blant, ond nid oes ond tri yn fyw, Elizabeth o Quaker Hill, William o Rome, a David o Kansas.
Gyda theimlad hiratethlawn yr ydym yn edrych yn ôl mewn adgofion am y cedyrn hyn, ac yn gofyn, "Ein tadau, pa le y maent hwy."
J. H. JONES.