MR. E. G. LLOYD. 19 OREGON AVENUE, CHICAGO, ILLINOIS.
Tachwedd 22ain, 1899, yn 19 Oregon Avenue, Chicago, Illinois, E. G. Lloyd, (Llwydfab) gan adael gweddw a phedwar o blant, dau fab a dwy ferch i alaru ar ei ôl.Y mae y weddw yn nychu dan gystudd ers llawer o fisoedd, a phrofedigaeth fawr i'w theimlad oedd, methu dyfod i'r capei ddydd angladd ei phriod.
Er fod iechyd Mr. Lloyd yn fregus ers rhai flynyddau yr oedd yn dilyn ei alwedigaeth fel ysgrifenydd yn un o swyddfeydd yr Illinois Central Railroad, ac yn mynychu moddion gras ac yn cyflawni ei waith fel ysgrifenydd yr Iforiaid hyd o fewn ychydig wythnosau i'w farwolaeth.
Ganwyd ef yn Dolwen, Ffestiniog, Gogledd Cymru, Awst 26ain, 1848. Ei rieni oeddynt Mr. a Mrs. John Lloyd, ya 7 oed. Pan yn 7 oed, bu ei fam farw a chan i'w dad briodi eilwaith a myned o'r ardal i fyw, ymgartrefodd gyda'i ewythr a'i fodryb yn Ffestiniog. Gaa fod ei ewythr yn ddiacon yn un o eglwysi y lle, cafodd fagwraeth grefyddol ragorol. Mynychodd yr ysgol ddyddiol nes bod yn 13 oed, pryd y dechreuodd weithio yn y gloddfa lechi.
Yn 1871, ymunodd mewn priodas a'r hon a fu yn gydymaith ffyddlon a ohariadius iddo hyd derfyn ei daith.
Ganwyd iddynt wyth o blant, pump yn Ffestiniog a thri yn Chicago, ond. claddwyd baban, yn Ffestiniog, a baban a dwy ferch wedi tyfu i oedran yn Chicago. Bu y profedigaethau hyn yn ergydion trymion i'n brawd, ond tynent ef yn nes at Dduw, a dyfnhaeat ei brofiad crefyddol.
Ymfudodd i America, yn Chwefror 1884, a dilynwyd ef mewn tri mis gan ei deulu.
Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ienuanc, a chymerai ddyddordeb dwfn yn holl weithrediadau yr eglwys y perthynai iddi. Yr oedd yn weithiwr dyfal gyda phob symudiad llenyddol, dyngarol ac eglwysig. Tua dwy flynedd yn ôl dewiswyd ef yn ddiacon gan eglwys Hebron, a chyflawnodd ei swydd gydag yni a ffyddlondeb. Bydd colled, mawr ar ei ôl mewn llawer o gylchoedd.
Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus - yr oedd y capel yn orlawn, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Robert Humphreys, R. H. Jones, Bismark Davies, R. T. Roberts, D. D., a'r ysgrifenydd. Nos Sabboth, Tachwedd 26ain, traddodwyd pregeth goffawdwriaethol i gynulleidfa fawr.
Caffed y weddw a'r plant arweiniad a dyddanwch Duw.
J. C. J.
Y Drych ~ Rhagfyr 21ain 1899.
MR. EVAN G. LLOYD. 19 OREGON AVENUE, CHICAGO, ILLINOIS.
Yn ystod chwe' blynedd gweinidogaeth yr ysgrifenydìd yn eglwys Hebron, dyma y trydydd swyddog a gymerwyd oddiwrthym drwy weinidogaeth angeu. Yr oedd y cyntaf yn wr cydmarol ieuanc, ond o alluoedd uwchraddol ac o gymeriad anghyffredin o ddysglaer; henafgwr oedd yr ail, llawn o brofiad a chyfoethog o ysbryd doethineb a phwyll; a'r trydydd yw y brawd sydd a'i enw uchod, yntau wedi ei gynysgaeddu a thalent, ei gymwyso gan ras, a'i buro gan dan profeidigaethau i fod yn arweinydd a chyngorwr yn mysg dynion.Ganwyd ef Awst 24ain, 1848, yn Ffestiniog, Gogledd Cymru. Ei rieni oeddynt Mr. a Mrs. John Lloyd, Dolwen. Bu ei fam farw pan oedd ef yn saith mlwydd oed„ a chan i'w dad briodi eilwaith a symud o'r ardal i fyw, magwyd ef gan ewythr a modryb. Gan fod ei ewythr yn ddiacon yn un o eglwysi Ffestiniog, cafodd, dreulio blynyddoedd tyner ei fachgendod mewn awyrgylch grefyddol, a derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn dra ieuanc. Mynychai yr ysgol ddyddiol nes bod yn 13 oed, pryd y dechreuodd enill ei fywoliaeth yn y gloddfa lechi.
Pan yn 23 oed ymunodd mewn priodas a'r hon sydd wedi bod yn gydmar ffyddlon iddo am 28 o flynyddau. Ganwyd iddynt yno bump o blant, ond bu yr ieuengaf farw yn ei fabandod.
Croesodd ef y Werydd a chyraeddodd Chicago yn Chwefror, 1884, a thri mis yn ddiweddarach, dylynwyd ef gan y teulu. Er adeg ei ddyfodiad i'r ddinas, ganwyd iddynt dri o blant, yr ieuengaf yn marw yn faban, a chladdasant ddwy o ferched yn mlodau eu dyddiau.
Er fod iechyd ein brawd wedi ei anmharu ers rhai blynyddoedd, dylynai ei alwedlgaeth fel ysgrifenytìd yn swyddfa yr Illinois Central Railroad, a mynychai gyfarfodydd yr eglwys hyd o fewn deng wythnos i'w farwolaeth.
Bu farw Tachwedd 22ain, 1899, a chladdwyd ef Tachwedd 24ain. Aed a'r corff i'r capel, yr hwn oedd yn orlawn. Gorchuddid ac amgylchid yr arch gan flodau prydferth. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. Robert Humphreys, Robert H. Jones, Bismark Davies, J. C. Jones a R. T. Roberts, D. D., Racine.
Gan fod Mr. Lloyd yn aelod o ac ysgrifenydd ffyddlon i Gyfrinfa Madoc, yr Iforiaid, cerddai nifer lluosog o'r aelodau yn orymdaith o'r ty i'r capel. Traddodwyd pregeth goffadwriaethol gan yr ysgrifenydd y nos Sabboth dylynol, Tachwedd 26ain, pryd yr oedd y capel eto yn orlawn o wrandawyr wedi ymgynull o bob cwr o'r ddinas.
Yr oedd y weddw, o herwydd ei maith nychdod, yn analluog i ddod allan o'r ty, yr hyn a ychwanegai at brudd-der yr amgylchiadau. Erbyn hyn, y mae hithau wedi ei ddylyn i fyd yr ysbrydoedd, gan adael pedwar o blant amddifaid i ofal yr Hwn sydd yn Dad i'r amddifaid.
Rhag trethu ar ofod y "Cyfaill," ceisiwn ddweyd llawer am dano mewn ychydig eiriau. O ran ei ddyn oddiallan, yr oedd ei gorff yn dal, braidd yn deneu; ei wallt yn drwchus, crych a gwyneu; ei dalcen yn uchel; ei lygaid glas oleu yn awgrymu natur gyfoethog o garedigrwydd, a llinell o lymder yn weuedig drwyddi; ei afael wrth ysgwyd llaw, yn nghyd a'i wen a'i don wrth anerch cydnabod yn arddangos cryfder, didwylledd a haelfrydedd ewyllys.
Er yn ieuanc manteisiodd yn helaeth yn ei oriau hamddenol, ar gyfleusterau lluosog ardal ei faboed i ddiwyllio ei feddwl, cyfoethiogi ei wybodaeth, dyrchafu ei chwaeth, a helaethu ei ddefnyddioldeb. Cymerai ran gyson a blaenllaw yn ngwyliau llenyddol ac Eisteddfodau lleol ardal Ffestináog. Pwrcasodd a darllenodd lawer o lyfrau da, ac ymhyfrydai yn nghymdeithas llenorion, beirdd, cerddorion, a phregethwyr. Parhaodd yn yr un cyfeiriad ar ol cyraedd Chicago.
Byddai ef yn un o'r gweithwyr ffyddlonaf gyda phob Eisteddfod neu gyfarfod a chymdeithas lenyddol; a phan yn cystadlu mewn traethawd neu farddoniaeth, dangosai fesur helaeth o ddawn a medr i fynegu ei feddwl.
Llafuriodd yn galed gydag Eisteddfod Chicago yn 1890, a thrachefn dros Eistedtìfod fawr Ffair y Byd a diameu iddo niweidio ei iechyd, drwy orlafur gyda'r ddiweddaf a enwyd. Ni wyddai beth oedd diogi, pan fyddai unrhyw achos teilwng o gefnogaeth yn galw am ei gymorth. Pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur, gwnai a'i holl egni, yn ddirwgnach, a didal, ac yn aml yn ddi-ddiolch. Trwy hyn, aeth cylch ei weithgarwch yn eang, a nifer ei gydnabod yn lluosog. Ond na thybied neb fod ei brysurdeb yn y cylchaedd da yna yn difa ei nerth crefyddol, nac yn rhwystro ei ymroddiad gyda phethau crefydd. Na, gweithiai yn yr holl gylchoedd eglwysig fel pe na bai ganddo ddim arall i'w wneyd.
Bu yn athraw da ar ddosbarth mawr o chwiorydd am flynyddau; gwnaeth ei ran i gefnogi y Gymdeithas Ymdrechol, a chyn ei sefydliad hi bu yn ffyddlawn i gymdeithas y bobl ieuainc. Gweithredodd am dymor fel aelod o bwyllgor i gynorthwyo y swyddogion ac yn mis Mawrth, 1898, dewiswyd ef yn ddiacon. Gafaelodd yn ngwaith ei swydd yn ddeheuig, a chredwn pe cawsai fyw, y deuai yn un o swyddogion mwyaf medrus a dylanwadol ein Cyfundeb.
Yr oedd ei osgo yn ddiymhongar, ei ysbryd yn dyner, ei deimlad yn frwdfrydig, a'i ddawn siarad yn rhwydd a dymunol, fel yr oedd yn hawlio sylw ac yn enyn parch ei wrandawyr. Teimlai awydd angerddol am gael byw, i orphen magu ei deulu, ac i ymroddi yn llwyrach nag erioed i wasanaethu Gwaredwr ei enaid. Ond cymerwyd ef ymaith yn nghanol ei ddyddiau, a diau genym iddo gael derbyniad llon i'r tragwyddol bebyll.
Gadawodd goffadwraeth sydd yn gwasgar perarogl yn mhlith y rhai a'i hadwaenent.
John C. Jones.