MRS. GWEN LLOYD. RANDOLPH, WISCONSIN.
Mehefin 26ain, 1899, Mrs. Gwen Lloyd, Randolph, Wisconsin, yn 78 mlwydd oed, wedi bod yn dihoeni dros amryw fisoedd.Ymfudodd i'r wlad hon o ymyl Dolgellau, a bu yn byw yng nghymydogaethau Watertown, Wisconsin, am tua 25 o flynyddoedd. Tua saith mlynedd yn ôl daeth i Randolph i ymgartrefu.
Collodd ei pbriod adeg y rhyfel, a chafodd ei gadael gyda thwr o blant bychain i'w magu ei hun. Gwnaeth ran mam dda â hwynt, ac y mae pump o feibion yn galaru ar ei hol. Nid rhyw ddyfn iawn oedd ei rhisgl hi; na, yn hytrach yn arw oedd, ond rhisgl derwen oedd wedi'r cyfan. Yr oedd y pren yn dda er yr holl erwindeb allanol. Cafodd bob tynerwch a gofal oddiar law ei phlant; nid anghofiasant dalu dyled dyddiau mebyd iddi wedi heneiddio o honi.
Yr oedd yn aelod parchus o eglwys y T. C. yn Randolph. Claddwyd hi yn nghladdfa y dref.
Cynaliwyd gwasanaeth yn y tŷ ac yn y capel, pryd y gwasanaethvvyd gan y brodyr Josiah Daniels, E. Edwin Jones, Ripon, Robert Henry Jones, Chicago, a'r ysgrifenydd.
J. R. JOHNS.