MR. ROBERT LLOYD. WARRIOR RUN, PENNSYLVANIA.
Diacon Defnyddiol yn Warrior Run, Pennsylvania, yn Cael ei Gymeryd Ymaith ar Fyr Rybydd.
Warrior Run, Pennsylvania, Ionawr 3ydd. — Mae genyf y gorchwyl pruddaidd heddyw o gofnodi marwolaeth y diacon anwyl Robert Lloyd, yr hyn a gymerodd le yn ei gartref am haner awr wedi wyth nos Wener, Rhagfyr 29, 1899 yn 59 mlwydd oed. Ni bu yn sal ond: pythefnos. Ei afiechyd oedd y pneumonia.Claddwyd ef prydnawn Dydd Calan, yn ol trefniadau y Seiri Rhyddion. Awd a'r corff i'r capel, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. R. E. Williams, Plymouth; Peter Gray Evans, S. Wilkes-barre; William Jenkins, Wilkesbarre; David J. Roberts a James Jenkins, Warrior Run. Yr oedd y Parch. John Owen Jones yn yr angladd, ond nid oedd yn teimlo yn ddigon da i anerch y gynulleidfa.
Claddwyd ef yn mynwent y Green, Hanover, ger y lle hwn, a chafodd Angiadd teiiwng o wr Duw.
Gadawa i alaru ar ei ol briod a phump o-blant; hefyd brawd a chwaer, yn Llundain, sef John Lloyd, a Mrs. Marry Maylen, Mrs. Ellin Williams, yn agos i Caerdydd, De Cymru, Miss Elizabeth Lloyd yn Dinas Mawddwy, Meirionydd, a Gruffydd Lloyd yn Warrior Run. Bu brawd arall, pregethwr gyda'r Wesleyaid, farw.
Ganwyd yr ymadawedig yn Ninas Mawddwy, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oeddynt Dafydd a Gaenor Lloyd. Dechreuodd Robert weithio mewn gefail gof pan yn ieuanc iawn yn ei ardal enedigol, ac yn fuan aeth yn brentis o of at rywun yn Corris, yr un Sir, ond ni bu yno ond haner blwyddyn, pryd yr aeth am ychydig fisoedd i Cae Sarah, ger Caerfyrddin, De Cymru. Symudodd i Rhandir Mwyn, yr un Sir, lle y bu amryw flynyddau; ac oddiyno aeth i Hirwain, o'r hwn le yr ymfudodd i America yn 1869.
Bu yn aros yn Wilkesbarre am dymor; yna yn Scranton; a daeth i Warrior Run yn 1871 i orphen ei yrfa. Wedi ymsefydlu yn Warrior Run, 29 mlynedd yn ol, bu yn gweithio gwaith gof am y ddwy flynedid gyntaf neu lai, pryd y dyrchafwyd ef yn oruchwyliwr allanol, a bu yn y swydd hyd yn awr. Ar ei ddyfodiad yma, sefydlwyd cangen eglwys Fethodistaidd, a chymellwyd ef ac Edward Edwards i ofalu am yr achos; a buont yn ffydlon, bob amser.
Tua 12 mlynedd yn ol, priododd Miss Mary Thomas, ail ferch John H. Thomas a'i briod o'r lle hwn. Ganwyd iddynt chwech o blant, ond pump sydd yn fyw. Flynyddau maith yn ol, anturiodd mewn chwarel yn Danielsville, Pennsylvania, a'r canlyniad fu colli $1500. Rhyw ddeng mlynedd yn ol, anturiodd eilwaith yn Slatington, Pennsylvania; a chollodd cydrhwng y ddau dros $7,000. Clywais ef yn dweyd na chollai geiniog mwy, ac na chymerai boen am y rhai oedd wedi myned.
Yr oedd Robert Lloyd yn fawr fel Ysgrythyrwr, duwinydd, ac yn benaf fel Cristion. Yr oedd yn siaradwr rhwydd a dylanwadol anghyffredin ar adegau. Clywais ef yn siarad yn seiat y Cwrdd Dosbarth fwy nag unwaith gyda'r fath nerth nes y byddai y lle yn ferw. Cafodd grefydd amlwg yn amser y diwygiad mawr yn Nghymru, dros ddeugain mlynedd yn ol, a pharhaodd yn ddiwygiad arno trwy ei oes. Cefais y fraint o'i adnabod am 29 mlynedd, ac ni adwaenais neb a mwy o naws grefyddol nag ef. Yr oedd o dymer naturiol dda, yn llawn amynedd, ac ni byddai byth yn cael ei gynhyrfu gan dymerau ddrwg. Pan y dygwyddai rhyw beth annymunol yn yr eglwys, codai ef ar ei draed, a dywedai ychydig eiriau yn llawn cariad, nes adferu tawelwch yn y fan.
Yr oedd yn haelfrydig tu hwnt braidd i neb a gyfarfyddais o'i safle. Cyfranodd ganoedd os nad miloedd at achosion da, yn enwedig crefydd a thylodion.
Yr oedd ganddo ddiffygion cymharol ddibwys. Un oedd, synied fod pawb mor onest ag ef ei hun, a thrwy hyny yn cael ei arwain i brofedigaeth, a cholledion. Hefyd, ambell waith, ni fynai gredu ond y goreu am bawb; nid oedd gwenwyn a dichell yn cael lle yn ei fynwes ef o gwbl. Nid oes genyf ond dymuno am i Dduw Abraham fod yn Dduw i'w briod a'i blant, a chyfodi rhyw un neu rywrai i lanw ei le yn eglwys Warrior Run. Anghofiais ddweyd na chlywais neb yn y wlad hon gystal am ddweyd Amen gyda llais mawr cryf; ac yn fynych byddai yn dweyd "Diolch iddo byth," nes byddai y lle yn crynu.
Yn dawel iawn yr huna di
Cawm ninau yma wylo;
Ond melus, melus, fydd i ni
Tra byddom byw dy gofio.
— Cyfaill.