MRS. MARY ANN MICHAEL. BIG ROCK, ILLINOIS.
Chwefror 15fed, 1899, yn Big Rock, Illinois, Mrs. Mary Ann Michael, yn 76 mlwydd oed.Genedigol ydoedd o Nefyn, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Daeth i'r wlad hon gyda'i phriod Thomas Michael, yn y flwyddyn 1859. Parhaodd y cyfamod priodasol 52 mlynedd.
Gadawodd ei phriod ynghyd a chwech o blant, tri mab a thair merch, i alaru ar ei hol.
Bu yn wraig a mam ddarbodus a diau y teimlir colled ar ei hol.
Pan yn ferch byddai yn arfer gwrando yn gyson yn nghapel y M. C. yn Nefyn. Ni bu yn aelod eglwysig.
Daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Gwasanaethwyd yn ei chladdedigaeth gan y Parch. Mr. Gammon a'r ysgrifennydd.
Nodded Duw fyddo ar ei phriod galarus a'r plant.
G. R. EVANS.