MRS. ELIZABETH MORRIS. 48 MILLER STREET, UTICA, NEW YORK.
Rhagfyr 7fed, 1899, yn ei chartref, 48 Miller St., Utica, New York, Mrs. Elizabeth Morris, gweddw David Morris, yn ei 91fed flwydd.Bu yn anhwylus am deg diwrnod, a bu farw o effeithiau henaint. Ei henw morwynol oedd Elizabeth Griffith, a ganedig o Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Ymbriododd â David Morris, Mawrth 7fed, 1834. Ymfudasant i'r wlad hon yn 1842, a threuliasant yr oll o'u dyddiau ar Miller Street, Utica.
Saer wrth ei alwedigaeth oedd David Morris, a bu farw yn 1889.
Yr oedd Mrs, Morris yn aelod ffyddlon, o eglwys Coke Memorial, ac ar hyd ei hoes yn Gristion cyson a difwlch.
Cafodd iechyd da, ar hyd ei hoes, ac yr oedd mewn cadwraeth dda. er mewn oedran mawr.
Bu yn fam i wyth o blant, tri o'r rhai sydd wedi marw, John R., Edward D, a Griffith R. Y mae yn aros Ella, priod William Thompson, Daniel T. a George W. Morris, Utica; Watkin J. Morris, Albany; a Margaret, priod Capten Norman W. Palmer, New York. Gedy hefyd lawer wyrion a gor-wyrion.