MR. EVAN OWEN. RACINE, WISCONSIN.
Ionawr 25ain, 1899, yn Racine, Wisconsin, Evan Owen, yn 82 mlwydd oed, o'r pneumonia, ar ôl wythnos o gystudd.Ganwyd ef mewn ffermdy yn mhlwyf Llanaber, ychydig filldiroedd o dref Abermaw, Meirion, Gogledd Cymru. Yn 1837 ymbriododd a Miss Mary Williams o'r un gymydogaeth.
Yn 1844 ymfudodd i America, gan ymsefydlu yn Mount Pleasant, ger Racine, lle y bu yn amaethwr hynod lwyddianus hyd nes y daeth i'r ddinas gyda ei briod i fwynhau prydnawn dydd bywyd llafurus ac ymroddgar mewn llawnder a thawelwch. Cawsent eu bendithio â phedwar mab a thair merch - y pedwiar mab yn byw Racine a'r cyffiniau; y ferch hynaf wedi marw, a'r llall, sef Mrs. Lewis Williams, yn byw ger Franksville, a'r ienengaf, Mrs. Reese H. Davieis, yn Omaha, Nebraska.
Yr oedd Evan Owen yn heinif, cryf ac iach o gorff, ac wedi byw bywyd gweithgar fel amaethwr ar raddfa eang, ac yn ychwanegol yn prynu ac yn gwerthu anifeiliaid a'u hanfon i farchnad Chicago. Ystyrid ef yn onest ac anrhydeddus yn ei holl gysylltiadtau masnachol, fel ag yr oedd wedi enill parch ac ymddiried pawb ag yr oedd a wnelai ef a hwy. Yr oedd hefyd yn ddyn haelionus, yn ei ddull dystaw ei hunan.
Bu ran fawr o'i oes yn aelod ffyddlon gyda y T. C., yn gyntaf yn Mount Pleasant ac wedi hyny yn Racine. Efe roddodd y tir i adeiladu y capel yn Mount Pleasant, a bu ef a'i deulu yn swcwr ac yn golofnau i'r achos tra y buont byw yno. Ar adegau cyfarfodydd neillduol. byddai croesaw, i ba nifer bynag i fwynhau eu lletygarwoh cynes.
Rai blynyddoedd yn ôl dyoddefodd Mr. Owen boen anaele yn un o'i aelodau, ac ofnid y pryd hwnw nad allasai fyw, ond o herwydd ei gyfanisoddiad iachus a cryf, daeth drosto.
Yr oedd ei glyw er's amser wedi ei anmharu yn fawr, fel nad oedd yn gallu mwynhau moddion gras fel ag y bu, ond yr oedd yn ymwneyd yn fwy a'r Beibl yn ei flynyddoedd olaf nag erioed.
Cymerodd ei angladd le ar y 28ain cyfisol. Wedi gwasanaeth byr yn y tŷ, deuwyd a'r gweddillion i addoldy y T. C., lle yr oedd tyrfa luosog anarferol o'i hen gymydogion o'r wlad, a llawer iawn o'i gyfeillion o'r ddinas wedi ymgynull. Dechreuwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. Thomas Evans (A.), a thraddododd ei weinidog, y Parch. R. T. Roberts, M. A., anerchiad hynod gyfaddas yn Saesneg, ac hefyd cael ychydig sylwadau gan y Parch. Thomas Foulkes, Wisconsin.
Eiddunir nawdd y nefoedd ar ei weddw, ei blant, ei wyrion a gorwyrion.
T. LL. W.