MRS. KATE OWEN. AUGUSTA, KANSAS.
Awst 24ain, 1899, yn Augusta, Kansas, ar ôl cystudd trwm o ddeg diwrnod dan: y typhoid fever, Mrs. Kate Owen, anwyl briod Ellis Owen, peirianydd yn ngwasanaeth Mr. L. W. Lewis, Emporia.Ganwyd Mrs. Owen yn Nolgellau, Gogledd Cymru, tua 31 mlynedd yn ôl, ac y mae ei mam a'i brawd yn byw yno yn bresenol.
Daeth i America, ac yn uniongyrchol i Emporia, yn y flwyddyn 1888. Bu yn briod ddwywaith; y tro cyntaf gydag Evan Williams, mab hynaf Mr. a Mrs. Hugh R. Williams, Goal Creek, yr hwn a fu farw yn mhen tua blwyddyn, gan ei gadael yn weddw gydag un bachgen bach, yr hwn sydd yn cael ei fagu gan ei daid a'i nain.
Yn Ebrill, 1898, ymbriododd gyda'r brawd Ellis Owen, yr hwn sydd frodor o Lanfrothen, Gogledd Cymru.
Gadawodd; heblaw ei phriod faban braf, Richard Owen, ei chwaer, Mrs. Mary Roberts a'r teulu, a llu o gyfeillion i alaru ar ei hol.
Gwasanaethwyd yn ei hangladd gan yr ysgrifenydd, yr hwn hefyd a'i priododd ac a fedyddiodd: ei baban, ac i eglwys yr hwn y perthynai, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. H. J. Whitby.
Claddwyd yn Lower Dry Creek.
John Michael Hughes.