MR. JOHN H. REESE. 53 TAYLOR AVENUE, UTICA, NEW YORK.
Gorphenaf 12fed, 1899, yn nhy ei frawd, John H. Reese, 53 Taylor Ave., Utica, New York, o'r darfodedigaeth, Richard Reese, yn 31 mlwydd, 4 mis a 22 niwrnod oed.Cyn ei analluogi gan afiechyd bu yn llanw y swydd o "starter" yn ngorsaf y Belt Line, am saith mlynedd. Treuliodd rai misoedd yn South Carolina; ond dychwelodd i Utica tua mis yn ôl, a suddodd yn gyflym er pob gofal.
Mab ydoedd i Evan a Lydia Reese, Dinas Mawddwy. Ymfudodd i Utica ddeuddeg mlynedd yn ôl, ac enillodd barch fel dyn ymddiriedol ac fel aelod cywir o eglwys Bethesda.
Saith mlynedd yn ôl priododd Sarah Owens, o Marcy, yr hon gyda, geneth fach sydd wedi eu gadael i alaru ar ei ôl. Heblaw ei frawd yn Utica, gadawodd hefyd ei rieini a dwy chwaer yn Nghymru, a dau frawd yn Manchester, Lloegr.
Claddwyd ef ddydd Sadwrn o Bethesda, y Parch. Dr. Gwesyn Jones yn gweinyddu.