MRS. CATHERINE ROBERTS. BONTNEWYDD, RANDOLPH, WISCONSIN.

Chwefror 8fed, 1899. yn y Bont Newvdd. Swydd Columbia, Wisconsin, ymadawodd yr hen chwaer adnabyddus Catherine Roberts a'r fuchedd hon; ym 88 mlwydd oed, yr addewid wedi ei chyflawni iddi, sef "Digonaf ef a hir ddyddiau, a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth."

Ganwyd hi yn Bontnewydd, Swydd Gaernarfon. Awst 21ain, 1810. Ei rhieni oeddynt David Thomas ac Ann ei briod.

Yn 1821 priododd â John Roberts. Ganwytì iddynt ddeuddeg o blant, a chollasant bump yn eu babandod.

Yn 1845 ymfudasant i America, gan ymsefydlu ar y frontier yn Wisconisin. Dyma ei phethau cyffredin, ond y mae yn ei hanes rai pethau anghyffredin. O ran ei hymddangosiad allanol yr oedd yn llawn mor ddymunol yr olwg a'r mwyafrif o'i rhyw, ond yn fwy bywiog a deheuig gyda ei gorchwylion na'r cyffredin, ac o ran ei meddwl, er nad mor gryf a rhai, yr oedd yn wastad ar ei lawn waith, a hyny mewn modd ag oedd yn peri iddi ffurfio cymeriad o werth.

Am ei charedligrwydtì yr oedd yn nodedig. Nid yw pob caredigrwydd yr unrhyw, fel y dwfr yn y cistern a'r ffynon, ceir ef yn un am ei fod wedi myned, iddi, a'r llall am ei fod ynddi. Yr oedd ei chalon hi yn llawn caredigrwydd, ac nid yn cael ei roi ynddi gan garedigrwydd eraill, ac mewn canlyniad; yn ffrydio allan i bob cyfeiriad.

Ei threialon a'i phrofedigaethau. I sefydlwyr cyntaf sefydliadau ein gwlad, y mae ystyr helaeth i'r hyn a elwir ganddynt yn dreialon. Yr oedd ei blynyddau cyntaf yn adeg ag yr ymdrechodd ymdrech deg er cychwyn bywoliaeth a chychwyn crefydd, ac yr oedd ein gwrthrych yn y rhestr flaenaf o wroniaid y blynyddoedd gynt, er fod y cyfnwidiad iddi hi o'r fath fwyaf.

Ymwrolodd fel y cyflawnodd ei dyledlswydd yn y ddau gysylltiad. Fe ddywedir am y mor ar adegau, y bydd yr ystormydd mor fawr ac aml, fel nad yw yn cael digon o amser i lonyddu. Gellir dweyd am gyfnod maith o'i bywyd hi, ddarfod i ystormydd mor fawr ac aml ei chyfarfod fel nad oedd lonyddwoh iddi. Y gyntaf a'i cyfarfu oedd colli ei hanwyl briod, a hyny oddicartref, pan ar ei taith dros y tir i California yn 1852, pan oedd y cartref heb ei orphen, a'r plant ar ganol eu magu. Yr oedd y nesaf a'i cyfarfu megys deufor gyfarfod, oherwydd yn yr un mis. sef Ionawr 1877, collodd fab a merch, y ddau yn mlodau eu dyddiau, y ddau yn gysur mawr i'r teulu ac yn addurn i gymdiethas, ac yn 1880 drachefn oollodd ei mab hynaf, pan oedd yn nghanol ei nerth, ac wedi llwyddo i wneyd cartref clyd iddo ei hun a'i fam weddw.

Yr oedd ef iddi megys cysgod craig fawr, ond ymaith yn sydyn yr aeth, ac yn ebrwydd, cyn i'r ystorm hon dawelu, collodd un o'i merched ei phriod pan yn cychwyn byw yn addawol gan adael dau o fechgyn bach yn amddifaid. Daeth y weddw ieuanc a'i phlant bach at ei mam i fyw, felly codwyd y bechgyn gyda eu nain, a gwnaethant le mawr iddynt eu hun, ac yr oeddynt bron a dod i lanw y bylchau mawr oeddynt wedi eu gwneyd yn flaenorol, ond "Rhagluniaeth fawr y nef, mor rhyfedd yw."

Cymerwyd y ddau hyn hefyd ymaith bron yn ymyl eu gilydd, pan ar ddyfod i'w hoed, ac yn ddiweddaf, ychydig fisoedd cyn ei hymadawiad, symudwyd ei merch hynaf, sef Mrs. Price, priod y Parch. Robert Price, Mankato, Minnesota. Ychydig cyn hyn yr oeddd hi a'i phriod wedi talu ymweliad a'r hen fam, ac wedi peri sirioldeb i'w meddwl, ond ni chafodd ei symud heb i'r sirioldeb hwnw gael ei gymeryd ymaith.

Yn sicr gallai hawlio yr enw "Mara," ond daliodd heb ddweyd dim yn ynfyd yn erbyn y drefn, yr hyn a'n harwain i ddweyd gair am ei chrefydd.

Ar ôl byw yn ddichlynaidd o'i mebyd ymunodd â chrefydd yn ebrwydd ar ôl dod i'r wlad hon. Fel yr ydym yn deall, ni chafodd ei hysgytio a'i dychrynu wrth Sinai fel rhai, ond, yn sicr cafodd olwg ar Galfaria, ac oddiar yr olwg arni, er pob peth, dywedai yn fynych, "Gwyn fy myd." Yn yr olwg arni hi nid allwn lai na meddwl am y darnodiad hwnw o grefydd, "Y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynon o ddwfr yn tarddü i fywyd tragwyddol."

Yr oedd ei chrefydd hi yn llanw hyd yr ymylon y rhydwelyau hyny sydd i ddyledswyddau crefyddol. Y ddyledswydd o gyfranu at gynal crefydd; cyflawnai hon yn wastad hyd eithaf ei gallu, ac yn wir, weithiau uwchlaw ei gallu, a hyny o barotrwydd meddwl, ac yn llawen. Byddai yn rhag-ofalu ac megys yn rhedeg i gyfarfod casgliadau yr eglwys, nid eu hosgoi, megys y mae arfer rhai. Yr oedd yn or-awyddus am fyned i "dy yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml." Byddai yn mawr hiraethu ac yn blysio am y cynteddau, ac yn wastad yn gallu dweyd fod pethau y tŷ yn rhoddi mwynhad annhraethadwy iddi, ac yr oedd yn byw ac yn aros yn wastad yn mhethau y tŷ.

Am ei phrofiad crefyddol, yr oedd yn nodeidg o wastad. Dywedai syniad yr emynydd yn aml, "Mae gobaith er yn wan, caf ddod i'r lan ryw ddydd." Ond fel yr oedd yn agoshau at y terfyn, yn lle bod yn wan yr oedd yn cryfhau, fel yr hunodd yn dawel, a'i llygaid yn gweled yr iachawdwriaeth fawr.

Cafodd gladdedigaeth lluosog, ac ystyried gerwinder yr hin. Gweinyddwyd gan y Parchn, John R. Johns, D. R. Jones a William W. Davies. Yr oedd y sylwadau yn nodedig o briodol, a rhyw berarogl ar y gwasanaeth, cyfatebol i'r gwrthrych.

Heddwch i'w llwch.
Griffith Williams, Randolph, Wisconsin.

Y Cyfaill o'r Hen Wlas ~ Chwefror 1900.