MR. DANIEL H. ROBERTS, "Y TE." PHILADELPHIA.
Ganwyd ef yn Lleyn, Sir Gaernarfon, G. C. Symudodd yn ieuanc i Dremadog, yna i Liverpool, ac oddiyno i New York, wedi hyny i Philadelphia, Pennsylvania, lle y bu farw yn llawn o ddyddiau. Bu yn briod ddwywaith. Mae iddo un mab, sef y Parch. Owen J. Roberts, Flushing, Michigan. Nid gwaith hawdd oedd cael allan ei oed. Yr oedd yn debyg i un hen weinidog gyda'r Annibynwyr yn Sir Fflint y clywsom ei hanes. Nid oedd modd caei gwybod oed hwnw.Meddyliodd rhai o'r chwiorydd da unwaith am gynllun er cael y goreu ar yr hen weinidog, ac wedi myned i'w dy a chyfarch gwell iddo, meddai un chwaer, gan ddangos cydymdeimlad a'r hen frawd, "Mae yn chwith iawn i chwi ar ol Mrs. Jones; pa sawl blwyddyn sydd er pan y bu farw?" "Deg, deg," meddai yntau. Ac meddai yr ail, "Pa hyd y buoch yn cydfyw a'ch gilydd, Mr. Jones bach?" Ei ateb oedd, Deugain, deugain." Ac meddai y drydydd (wrth weled pethau yn ymddangos mor addawol iddynt gyraedd eu hamcan), "chwi a briodasoch yn lled ieuanc, beth oedd eich oed y pryd hwnw Mr. Jones?" "Full age, full age. chwaer hach,' oedd ei ateb.
Yr oedd rhywbeth tebyg yn Daniel Roberts. Yr oeddym flynyddoedd yn ol mewn seiat yn Utica yn dweyd sylw o bregeth Mr. Elias mewn Sasiwn yn Pwllheli. Yr oeddym wedi clywed y sylw gan ein mam-yn- nghyfraith, Mrs. Williams. Mary Street. Yr oedd hi yn y Sasiwn yn eneth tua deuddeg oed. Wedi i ni wneyd y sylw cododd yr hen frawd i fyny a deigryn yn ei lygaid. ac meddai. "Dyna fel y dywedcdd Mr. Elias; yr oeddwn i yno yn ei wrando. "Ac meddwn inau, "Yr oeddych chwi yno Mr. Roberts, gadewch i ni gael hanes y Gymanfa? pwy oedd yno? a oedd eraill yn cael hwyl? ai ynte Mr. Elias oedd yr unig un a gafodd y dylanwad?" Aeth yr hen frawd yn ei flaen, a chawsom hanes dyddorol ganddo am y Gymanfa, a'r modd y bu i'r oedfa hono gan Mr. Elias fod yn ddechreuad diwygiad grymus yn y Sir. Wedi iddo eistedd i lawr gwnaethom sylw ei fod yn cofio yn rhagorol, gan gyfeirio at pa faint oedd ei oed yr adeg hono. Ei ateb cwta, oedd, "Ei fod yn ddigon hen i fyned i'r Sasiwn heb ei fam."
Bu yr hen frawd yn ffyddlon iawn i'r "Cyfaill." Bu yn ei ddosbarthu yn New Vork tra y bu Dr. Rowlands yn fyw. Yr oedd yn gyfaill ac edmygydd mawr o'r Doctor. Ni welsom neb yn fyw felly, ac wedi marw Dr. Rowlands daeth yn edmygydd mawr o Dr. Roberts, a bu yn byw yn y teulu am amser yn Utica. Ei brif bregethwyr yn Nghymru oedd Mr. John Jones, Tremadoc, Mr. Elias a Mr. John Hughes, Liverpool, ac ni byddai yn rhaid bod yn ei gwmni yn hir o amser heb ddeall hyny. Pan yn fachgen yr oedd wedi bod yn ngwasanaeth Mr. Jones, Tremadoc, ac wedi symud i Liverpool bu yn ngwasanaeth Mr. Hughes.
Mae yn rhaid fod hyny gryn lawer dros drigain mlynedd, oherwydd mae dros drigain er pan roddes Mr. Hughes ei fasnach i fyny i dderbyn galwad yr eglwysi yn Liverpool i fod yn gyd-weinidog a'r Parch. Henry Rees. Ni chafodd ei ddewis yn swyddog eglwysig. hyd y gwyddom ni, ond bu wrth y drws i fyned i fewn lawer gwaith, ond gwyddom am lawer a aeth i fewn yn meddu ar lai o gymwysderau. Efe oedd y Cymro crefyddol cyntaf i ni gyfarfod yn y wlad hon. a hyny ar ein ffordd i gapel 13th Street, New York. Yr oedd genym genadwri iddo oddiwrth ei frawd o Liverpool. Cawsom ymgom ddifyrus ag ef y pryd hwnw, ac ugeiniau o weithiau ar ol hyny. ac ni welsom ddim ynddo i'w dynu i lawr yn ein syniadau.
Flynyddoedd lawer yn ol yr oedd yn adnabyddus i lawer o Gymry trwy y wlad hon fel 'Daniel Roberts y Te," o herwydd dyna oedd ei waith. masnachu mewn te yn ninas New York. ac yn enwedig gan ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol fel y proffwyd Daniel: ac nid rhyfedd oedd i blant bach yr Ysgol Sul yn New York ateb, pan yr oedd brawd yn eu holi am ryw adnod, gan ofyn pa le yr oedd. "Yn llyfr y proffwyd," oedd yr ateb. "Beth oedd enw y proffwyd?" meddai yr holydd. "Daniel Roberts" oedd yr ateb: a chredwn y byddai yr hen frawd yn mwynhau yr enw "proffwyd." Gwyddom y byddai rhai yn credu am dano ei fod yn lled hunanol a sychlyd wrth wrando rhai pregethwyr. ond camsyniad mawr oedd meddwl felly am dano.
Gwelsom ef yn wylo fel plentyn lawer tro wrth wrando ar bregethwyr a ystyrid gan lawer yn lled ddiddawn a chredwn mai y gwirionedd am Iesu Grist fyddai yn ei feistroli. ac nid dawn y pregethwr yn gymaint.
Wel, mae ein hen gyfaill wedi huno. Heddwch i'w lwch hyd foreu yr adgyfodiad.
Wedi gosod yr uchod, derbyniasom a ganlyn oddiwrth ei fab, y Parch. Owen W, J. Roberts, yr hwn sydd yn weinidog o safle dda gyda'r Presbyteriaid: Ganwyd fy nhad yn Bryn y Croes, Sir Gaernarfon, Ionawr 6, 1810, a bu farw Ionawr 10fed, 1899, yn Philadelphia, Pennsylvania. Rhoddwyd ei gorff i orphwys yn lvy Hill Cemetery, Ionawr 14eg, pryd y gweinyddwyd gan ei anwyl weinidog, y Parch. R. T. Jones, D. D.. a'r Parch. John R. Eyans, gweinidog yr eglwys Gymreig (T. C.) yn y ddinas.
Yn ystod ei oes faith gwelodd lawer o gyfnewidiadau. Pan yn wyth oed ymfudodd gyda'r teulu i Tremadoc, a bu yn hogyn gyda'r Parch. John Jones. Yn 1835, daeth i Liverpool, ac am wyth mlynedd bu yn cadw stor frawd i'r Parch. John Hughes.
Yna ymfudodd i New York, lle y bu yn masnachu mewn te a choffi am 27ain mlynedd. Yn 1846, priododd Miss Jane Jones. merch David I. a Catharine Jones, y rhai oeddynt yn charter members o eglwys y T. C. yn Utica. Ganwyd iddynt ddau o blant, Catharine, yr hon a fu farw ar ben ei blwydd, Rhagfyr 9, 1850, a Owen J., yr hwn sydd yn weinidog ar ddwy eglwys Bresbyteraidd yn Flushing, Michigan.
Bu fy mam farw Rhagfyr 5ed, 1854. Ail briododd yntau yn Mai, 1856. Miss Elizabeth Jones, yr hon a fu farw yn 1880. Ar ol hyn symudodd yma a thraw, weithiau gyda ei fab, weithiau yn Utica, ond y rhan fwyaf o'i amser yn Philadelphia, lle yr oedd wedi dod o New York yn 1870. Bu yn ffyddlon iawn am flynyddoedd yn eglwys y T. C. ar 13th. St. Ychydig iawn sydd yno yn awr a fuont yn gydweithwyr ag ef.
Yn Philadelphia ymaelododd yn eglwys Bresbyteraidd Dr. Thomas Murphy, lle y bu yn ffyddlon am flynyddoedd, ac wedi hyny yn eglwys Bresbyteraidid Susquehanna Ave. y Parch. R. T. Jones, D. D., yn weinidog.
Gwr cadarn yn yr Ysgrythyr oedd fy nhad, un o'r rhai goreu a welodd ef erioed, medd Dr. Murphy. Fel dyn a Christion yr oedd yn dawel, dirodres ffyddlon a gonest. Bob amser yn ei le, bob amser yn gyfaill mawr i bregethwyr. Yr oedd yn gyfaill mawr i'r diweddar Dr. Rowlamds, a bu yn oruchwyliwr ffyddlon y "Cyfaill" am amser maith. Yr oedd yn grefyddol o'i febyd, yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol pan yn 17 mlwydd oed, a bu yn athraw yn New York. Yn mhlith eraill yn ei ddosbarth yr oedd llanc ieuanc, yr hwn yn awr a adwaenir fel y Parch. Wm. Henry Roberts, D. D. Bu yn aelod o'r eglwys yn New York yn ystod yr holl amser y bu Dr. William Roberts yn ei gwasanaethu. Ond daeth yr amser na allai fy nhad fod fel cynt, y nerth yn pallu, ac amser yr ymddatodiad yn neshau. Er hyny, yn raddol iawn yr aeth i lawr tua machlud haul.
Ei gysur mawr ef oedd darllen a myned i'r capel, ond ni fu mewn lle moddion er ys dwy flynedd, a phallodd y golwg er ys amser, fel na allai ddarllen. Ni bu yn gyfyngedig i'w ystafell ond tymor byr, a bore Mawrth, Ionawr 10fed. am chwech o'r gloch, ehedodd ei ysbryd i wlad gwynfyd.
"Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i farchogion." Cadernid gwlad ac eglwys fyddai cael mwy o ddynion o'th ysbryd di. Hiraethwyf am danat, a'm gweddi yw fod i ddeuparth dy ysbryd ddod arnaf yn y gwaith mawr yr wyf ynddo. - Owen J. Roberts.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1899.
MR. DANIEL H. ROBERTS, "Y TE." PHILADELPHIA.
Rhan o erthygl gan W. Arvon Roberts yn rhifyn Ionawr 2020 o Llanw Llyn.Hanai o Lyn, Bryncroes, a chafodd ei eni ar Ionawr 6ed, 1810. Ei rieni oedd Owen Roberts ac Elizabeth Evans. Hen daid iddo ar ochr ei fam oedd Hugh Thomas, Aberdaron, neu Hugh Thomas, Rhosddu, Llaniestyn fel y'i gelwid ef gan eraill.
Yr oedd tad Daniel yn aelod eglwysig am 60 mlynedd ac yntau ei hun yn grefyddol o'i febyd, ac yn athro Ysgol Sul yn 17 oed. Bedyddiwyd ef yn Eglwys Aberdaron ar Ionawr 21ain 1810 gan y Parch. David Lewis. Dysgodd ddarllen yn yr Ysgol Sul a thrwy brynu baledi yn y ffeiriau lleol. Ni threuliodd ond tri mis mewn ysgol ddyddiol.
Pan yn wyth oed symudodd gyda'r teulu i Dremadog, a bu'n gweithio am dymor fel hogyn i'r Parch. John Jones (1776-1857). Yn 1835 cododd ei bac ac aeth i Lerpwl, lle bu am wyth mlynedd yn cadw stor flawd i'r Parch. John Hughes (1827-1893).
Yn 1843 ymfudodd i Efrog Newydd lle bu'n masnachu te a choffi ar Chatham Square, Manhattan am 27 o flynyddoedd.
Bu'n briod ddwy waith. Yn gyntaf, Jane Jones, merch David a Catherine Jones, Utica Efrog Newydd. Cawsom ddau o blant, Catherine Elizabeth ac Owen John. Wedi marwolaeth Jane yn 1850, priododd ag Elizabeth Jones yr hon a fu farw yn 1880.
Bu Daniel H. Roberts farw ar Ionawr 10fed, 1899 yn 89 mlwydd oedd.