MRS. ELEANOR ROBERTS. BRIDGEWATER, NEW YORK.

Awst 9fed, 1899, yn Bridgewater, New York, ar ôl salwch o amryw fisoedd, Mrs. Eleanor Roberts. Yn Gorphenaf diweddaf, cafodd ergyd o'r parlys o'r hwn amser y gwanychodd hyd ei marwolaeth.

Ganwyd hi yn Brynsaeth, Ffestiniof Gogledd Cymru, Ebrill 1814.

Ymbriododd ag Evan W. Roberts yno, ac yn 1849 ymfudasant i'r wlad hon gyda phedwar o blant, gan gyraedd New York Mai 5ed. Trigianasant yn Cassville, a symydasant i Justice Child's place, ac wedi hyny i'w fferm yn Bridgewater.

Bu Mr. Roberts farw tua 12 mlynedd, yn ôl. o ba amser y treuliodd Mrs. Roberts y gweddill o'i dyddiau gyda'i merch, Mrs. D. H. Jones, ar yr hen le.

Bu yn aelod gyda'r T. C. ar hyd ei hoes. Gedy un mab a thair merch: J. E. Roberts, Mrs. J. M. Turnbull, Utica; Mrs. D. H. Jones a Mrs. T. W. Parkinson, Bridgewater.

Claddwyd hi yn Bridgewater.

Y Drych ~ Awst 17eg 1899.