MRS. LAURA ROBERTS. SILVERTON, COLORADO.

Mehefin 30ain, 1899, yn Silverton, Colorado, bron yn 90 mlwydd oed, yr hen chwaer Mrs. Laura Roberts.

Ganwyd hi yn Goetre Isaf, fferm yn Nyffryn Ardudwy, ger Abermaw, Ebrill, 1810. Bu ei phriod farw yn 1859. Ganwyd iddynt saith o blant, o'r rhai mae pedwar yn fyw — un mab yn byw yn Abermaw; merch yn Manceinion, Lloegr; a mab a merch yn Silverton, sef E. L. Roberts, masnachwr, a Mrs. R. Jenkins, Barmouth Hotel. Cadd ei mab Ebenezer ei ladd gan snow slide yn 1886, yn mhen blwyddyn ar ôl iddynt ddyfod o Gymru yma, pan wrth ei orchwyl o gario llythyron i Red Mountain, tua, deuddeg milldir o'r dref hon.

Daeth yr hen chwaer yma o Gymru yn 1885, a bu fyw yn fawr ei pharch gan bawb, hyd nes yr hunodd yn dawel yn nghwsg angeu ar ôl yohydig gystudd. Edrychai yn ei harch mor naturiol a'r un corff welais erioed.

Claddwyd hi yn mynwent y dref, Gorphenaf 2ail, gan dyrfa barchus o Gymry a chenedloedd eraill. Cynaliwyd gwasanaeth yn y capel, cyn cludo ei gweddillion i'r fynwent.

Hir gofir hi gan luaws yn y dref ar gyfrif ei hynawsedd a'i serchowgrwydd. Pan glywais am ei marw daeth yr englyn canlynol i'm cof, yr hwn a welais ar gareg fedd yn Llannhangel Ysgeifiog, Mon, tua 1880:

"Marw wna'r carw'n y coed - a marw
Wna morwyn ysgafndroed,
Marw pawb, marw pob oed,
Marw'r hena' a'r ienga' 'rioed."
- G. ELERCH.

Y Drych ~ Gorphenaf 27ain 1899.