MR. ROBERT G. ROBERTS. WILD ROSE, WISCONSIN.
Ganwyd Mr. Roberts Awst 12fed, 1820, mewn ffermdy a elwid Amnoddì Bwll, Llanycil, yn agos i'r Bala, Gogledd Cymru.Mab ydoedd i George Rowlands ac Ellen Roberts. Cadwodd y wraig ei henw morwynig, a mabwysiadodd y plant enw eu mam yn hytrach nag enw eu tad.
Yn 1850 daeth Mr. Roberts i'r wlad hon, ac arosodd am beth amser yn Oshkosh, Wisconsin. Aeth oddiyno i New Orleans, Louisiana, a lleoedd eraill yn y De.
Yn 1855 daeth ym ei ôl i Wisconsin, ac yn Oshkosh, Tachwedd 11eg, 1856, ymunodd mewn priodas ag Elizabeth Williams o'r un lle. Bu iddynt 11 o blant, 5 mab a 6 merch. Bu y ferch hynaf farw o flaen ei thad. Mae y gweddill o'r plant a'r fam yn fyw i gydalaru ar ei ôl.
Buont yn byw yn Berlin am ddwy flynedd. Oddiyno daethant i'r ardal hon, a sefydlasant ar ffarm, lle y treuliodd yr ymadaweidig weddill ei oes.
Medi 26ain, 1864, aeth Mr. Roberts i'r fyddin, trwy ymtrestru yn y lst. Wis. H. A., a bu yn y fyddin hyd ddiwedd y rhyfel cartrefol. Tra yn y fyddin cafodd y chronic bronchitis a'r asthma, y rhai a'i dylynasant hyd ddiwedd ei oes.
Gorphenaf 29ain, 1899, cyfarfyddodd â damwain trwy gael ei daflu o'r cerbyd. Disgynodd ar ei ysgwydd ar ddaear galed, a chafodd ei gleisio yn ehbyd. Ond dywedai y meddyg nad oedd wedi derbyn niwed pellach na'r cleisiau allanol, ac y buasai yn dyfod dros hyny yn fuan. Ac i bob ymddangosiad yr oedd yn gwella yn dda, ond boreu Gwener, Awst 4ydd, dywedodd wrth Mrs. Roberts y buasai yn hoffi cael diod o ddwfr oer o'r ffynon. Aeth hithau i ymofyn dwfr iddo, a daeth yn ei hol, a chafodd ef yn hollol anymwybodol, ac wedi taflu ei hun ar y gwely.
Galwodd ar y ferch oedd mewn ystafell arall, a chodasant ef yn ôl i'r gobenydd, gan ddysgwyl y buasai yn dyfod ato ei hun. Byddai yn cael rhyw lewygfeydd, weithiau, ond yn adfywio yn mhen ychydig amser. Ond y tro hwn yn lle adfywio bu farw yn mhen ychydig fynydau.
Yr oedd Mr. Roberts yn un o'r cymeriadau mwyaf dymunol. Yr oedd yn gyfaill cywir, yn gwmniwr difyr, yn gymydog dystaw a charedig. Yn ei deulu yr oedd yn dyner, gofalus a darbodus. A thrwy diwydrwydd a chynildeb wedi eu gadael mewn sefyllfa gysurus. Meddai y dalent o fod yn ymarferol gyda phob peth. Yr oedd y peth a eilw y Sais yn practical man. Dealiai y natur ddynol yn dda. Yr oedd yn byw ar gwr y sefydliad Cymreig. O un tu yr oedd Saeson a Gwyddelod yn gymydogion iddo. Ac fel y mae yn mhob gwlad, nid oedd y rhai hyn yn gallu cytuno a'u gilydd yn dda. Pan elai yn helynt rhyngddynt gelwid ar Mr. Roberts i gyfryngu. Yr oedd ef ym deall y Sais a'r Gwyddel yn ddigon da fel ag i allu gwneyd i fyny rhyngddynt.
Cafotìdi Mr. Roberts ei fagu yn yr eglwys, a rhoddodd ei hunan yn gyflawn aelod gyidla y T. C. pan yn ieuanc, a chadwodd ei grefydd yn ddifwlch a gloew hyd y diwedd. Yr oedd yn ddefnyddiol mewn llawer cylch. Byddai yn fedrus i drin plant a phobl ieuainc, a chymerai dyddordeb mawr yn yr ieuenctyd. Cyngorai hwy yn fynych, a gweddiai lawer drostynt.
Fel athraw yn yr Ysgol Sabbothol yr oedd yn un o'r rhai mwyaf medrus a phoblogaidd. Yr oedd yn hoff o ddarllen, a'r blynyddau diweddaf yr oedd yn cael hamdden i hyny. Byddai nid yn unig yn cael gwybodaeth newydd, ond hefyd brofiad newydd yn y pethau a ddarllenai. Byddai cylch ei ddarllen bron bob amser yn grefyddol - y Beibl a llyfrau da eraill. Yn y seiat byddai ei brofiad yn dylyn rhai o dduwiolion y Beibl. Dywedai. "Yr wyf yn gweled fy hun yn debyg iawn i Job, Dafydd, meu rywun arall."
Ar yr 8fed rhoddwyd, ei gorff i orwedd yn mynwent Caersalem. Cafodd un o'r claddedigaethau mwyaf lluosog a welwyd erioed yn yr ardal.
Ar yr achlysur gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd. Heddwch i'w lwch, a Duw pob trugaredd a ddyddano y weddw a'r plant sydd mewn galar dwfn ar ei ôl.
Daniel Thomas.