MR. ROBERT ROGERS. BROOKLYN, NEW YORK.

Wele un o hen landmarks Cymreig Brooklyn wedi huno yn yr angeu.

Cyfeirio yr ydym at yr hen bererin Robert Rogers, yr hwn a gymerwyd yn sydyn wael Sabboth, Ebrill 30ain, a bu farw bore dydd Tau diweddaf yn yr oedran teg o 84 mlwydd oed.

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Dolgellau, Sir Feirionydd. Gadawodd wraig a thri o blant, un mab a dwy ferch i alaru eu colled ar ol tad ffyddlon a gofalus.

Daeth i'r wlad hon tua 60 mlynedd yn ol, a bu am amryw flynyddau yn llenydda a barddoni o dan y ffugenw Robyn Meirion.

Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn ei breswylfod nos Sadwrn diweddaf. Ffyna y cydymdeimlad llwyraf a'r weddw oedranus a methiantus a galarus, yn nghyd a'r plant.

Y DRYCH Mai 11eg 1899.