MR. GRIFFITH THOMAS. LIMA, OHIO.

Mai 9fed, 1899, yn Lima, Ohio, o'r appendicitis, ar ôl wythnos o gystydd, Griffith- Thomas, mab Mr. a Mrs. Griffith Thomas, 539 North West Street yn 19 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Ffestiniog, Ebrill 5ed, 1880. Daeth i'r wlad hon yn ieuanc gyda'i rieni gan ymsefydlu yn Gomer, Ohio, o'r hwn le y symydasant i Lima ddwy flynedd yn ôl.

Yr oedd yn flachgem ieuanc rhinweddol, a theimlir colled fawr ar ei ôl.

Cynaliwyd gwasanaeth angladdol iddo yn eglwys y Disgyblion ar Wayne Street, y Parchn. Chapman a Thomas yn gweinyddu. Claddwyd ef yn Gomer.

Y Drych ~ Mai 18fed 1899.