MRS. JANE THOMAS. 79 STEUBEN STREET, UTICA, NEW YORK.

Medi 19eg, 1899, yn ei chartref, 79 Steuben Street, Utica, New York, Mrs Jane Thomas, anwyl briod William J. Thomas, yn 57 mlwydd oed.

Genedigol oedd o Pwllheli - merch i Owen a Catherine Williams.

Priododd yn 1865; yna symudodd i Bethesda, o'r hwn le yr ymfudodd gyda'i theulu ddeuddegmlynedd yn ôl, i Utica - lle mae chwaer i Mr. Thomas (Mrs. Elizabeth Humphreys) yn byw.

Bu Mrs. Thomas ar ymweliad â Chymru y llynedd gyda'i merch; a dyna y pryd y dechreuodd ei hanhwyldeb.

Yr oedd yn aelod o'r eglwys Weslyaidd Gymreig (Coke Memorial), ac yn ddynes a fawr berchid.

Gadawodd heblaw priod galarus, bump o blant - Miss Katie M. Thomas, Mrs. Richard Roberts a William Thomas yn Utica; Mrs D. J. Little o Binghampton a John yn Chenango Forks; hefyd chwaer, Mrs. Catherine Roberts yn Nghymru.

Cafodd angladd parchus o gapel Coke Memorial ddydd Gwener, y Parchn. E. J. Griffith a Mr. Hammond (M. E.) yn gweinyddu.

Y Drych ~ Medi 28ain 1899.