CAPT. HUGH WILLIAMS. CHICAGO, ILLINOIS.
Mawrth 22, 1899, yn y Cook County. Hospital, Chicago, Illinois, yn 68 mlwydid oed, o'r Bright's disease a chlefyd y galon, bu farw yr adnabyddus Capt. Hugh Williams, yr hwn a fu am flynyddau yn gwerthu llyfrau yn y ddinas uchod. Llesgai er's peth amser, ond ni feddyliodd ef na neb arall fod ei ymddatodiad mor agos.Ganwyd ef yn Crowrach, plwyf Llanengan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Bu yn briod ddwywaith - y tro cyntaf â Margaret, merch Mr. Ellis Jones, diacon adnabyddus yn ei ddydd yn eglwys y Bwlch yn y plwyf a nodwyd - gyda'r hon y treuliodd flynyddoedd o fywyd hapus a dedwydd, hyd nes y gwahanwyd hwy gan angeu; a'r tro diweddaf gyda'r Mrs. Williams bresenol, yr hon sydd wedi ei gadael yn amddifad ar ei ôl. Morwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, ond wedi gadael y mor er's blynyddau, gan ymfudo i, ac ymsefydlu yn Chicago, Illinois. Yr oedd wedi gweled llawer ar y byd, ac fel y cyfryw yn meddu ysbryd eangach na llawer o'i oedran. Yr oedd hefyd yn gryn ddarllenwr, yn enwedig ar ei Feibl a llyfrau crefyddol, ac yr oedd pethau crefydd bob amser yn agos at ei galon. Pan aeth y Parch. R. H. Jones ac eraill i edrych am dano i'r Hospital, gadawodd dystiolaeth i'r cyntaf nad oedd yn ddiobaith gyda golwg ar y dyfodol.
Bu gweinidog ac aelodau South Side yn garedig iawn iddo yn ei afiechyd, a pharhasant yn ffyddlawn iddo hyd y diwedd - yn enwedig felly Mri. D. Cadwalader ac R. Pritchard; felly hefyd y ddwy Gyfrinfa y perthynai iddynt, yn nghyd a lluaws o gyfeillion eraill, i ba rai y teimlwn yn dra diolchgar am eu gofal am dano, ac am y gladdedigaeth barchus a roisant iddo.
Dydd Gwener y 24ain, yn nghapel Hebron y T. C, trodd llu o gyfeillion i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. R. H. Jones a J. C. Jones yn y capel, ac yn y Forest Home Cemetery gan yr Iforiaid a'r Knights of Pythias.
Ei Gefnder, R. E. Williams.