MR. JOHN H. REESE. 53 TAYLOR AVENUE, UTICA, NEW YORK.

Mehefin 30ain, 1899, yn 60 mlwydd oed, John P. Williams, Castleton, Vermont. Blinid ef fwy neu lai er's tua saith mlymedd gan ddiffyg treuliad, ond yr oedd ei gystudd yn ystod y misoedd diweddaf yn drwm iawn, er iddo ei ddyoddef mewn amynedd ymostyngar.

Genedigol ydoedd o'r Hen Dyrpaig, Plwyf Llandegai, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r wlad hon tua 42 mlynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Guilford, Vermont, am beth amser; ond er's rhai blynyddau cartrefai gyda'i chwaer, Mrs. Mesach Roberts, Castleton. Gadawodd chwaer arall a dau frawd, sef Mrs. Morgan Thomas, Washington, D. C.; William P. Williams, Brattleboro, Vermont, a Richard P. Williams, Boston, Massachusetts.

Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn â fawr hoffid gan bawb, a bydd yn hiraethus iawn i'w chwaer weled ei le yn wag wedi iddo fod yno yn ymgartrefu am gymaint o amser.

Cafodd angladd mawr y dydd Sul canlynol yn mynwent brydferth Castleton, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John W. Williams, Fair Haven, Vermont.

Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth gan yr ardal yn gyffredinol.

Y Drych ~ Gorphenaf 20fed 1899.