MRS. MARY ANN WILLIAMS. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Tachwedd 28ain, 1899, yn Middle Granville, New York, Mrs. Mary Ann Williams, anwyl briod Owen J. Williams, ar ól dyoddef cystudd byr o bum diwrod, yr hwn drodd yn pneumonia. Gan nad oedd ei hiechyd yn dda cynt, daliodd y clefyd dinystriol hwn hi yn ei gwendid, gan ei thynu i lawr yn fuan.Mae ei phriod yn fab i'r diweddar John M. Williams o'r lle hwn, a hithau yn ferch i'r diweddiar Edward Williams. Ganwyd hi yn Bethesda, Arfon, 46 o flynyddoedd yn ól. Symudodd ei rhieni yma pan oedd hi ond pedair oed, ac yma y treuliodd y gweiddill o'i hoes.
Tua 30 mlynedd yn ól priodedd Ellis Humphreys, a bu iddynt bump o blant, pedwar o'r rhai sydd yn fyw, sef Eliza, John, Ellis a Garfield Humphrey. Bu eu tad farw pan oedd y plant yn lled ieuanc; ac yn mhen rhai blynyddoedd ail briododd eu mam gyda Owen J. Williams, yr hwn oedd yntau yn weddw, a ganwyd iddynt chwech o blant, yr oll o'r rhai sydd gartref yn cydalaru a'u tad ar ól mam dyner a gofalus iawn, a phriod hawddgar a charedig. Cawsant golled drom pan ar haner eu magu, a chydlymdeimlir yn ddwfn a'r teulu yn eu trallod.
Yr oedd y chwaer weui cael y fraint o gael ei magu yn grefyddol o'i mebyd, a pharhaodd felly hyd angeu, gan enill nerth ac ychwanegu cryfder fel Cristion didwyll hyd yr anadl olaf. Yr oedd yn ffyddlon, gyda moddion gras, ac,yn derbyn gras drwy y moddion. Dywedai ei phriod wrthyf ar ól ei hymadawiad ei bod wedi canu ac adrodd yr hen emyn anwyl hwnw "A welsoch chwi ef," a.y.? ugeiniau o weithiau yn ystod y misoedd diweddaf, yr hyn sydd brawf cadarn: ei bod; wedi cael gafael yn y cyfaill a lyn i'w harwain drwy lyn cysgod angeu.
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 2il, yr oeddys yn claddu ei gweddillion yn nhy ei hir gartref, pryd y daeth tyrfa fawr anarferol yn nghyd nes gorlenwi y capel. Gweinyddiwyd gan y Parchn. L. Harrington (P.), E. T. Thomas, Fair Haven, a John Williams, Granville. Canodd y cor ei hoff emyn crybwylledig yn y capel. Yr oedd tri o'i meibion yn gwneyd i fyny y bearers, yn nghyd a thri eraill o'i pherthynasau agos.
Yr Arglwydd fyddo yn nodded i'r teulu trallodus, ac a baro fod yr oruchwyliaeth chwerw hon yn foddion i achub ei phlant yn nechreuad eu ffordd.
G. R. Davies.