MRS. RICHARD P. WILLIAMS. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Ionawr 12fed, 1899, yn Middle Granville, New York, Mrs. Richard P. Williams, ar ôl dyoddef cystudd blin am tua dwy flynedd, sef cancer yn ei stumog.Merch ydoedd i William Parry, Carneddi, Bethesda, gynt, ond yn awr Roe Wen, Conwy - ei thad wedi arfer gohebu llawer i newyddiadurom Cymru dan yr enw "Lleichidon."
Ymfudodd Mrs. Williams i America tua 30 mlynedd yn ôl, ac yn mhen tua dwy flynedd priododd R. P. Williams, mab i'r diweddar Gwilym Bethesda. Bu iddynt bump o blant, ond dau sydd yn awr yn fyw i gydalaru a'u tad ar ôl priod ffyddlon a mam ofalus. Cafodd y chwaer ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i mebyd gyda'r T. C., a pharhaodd yn ffyddlon hyd, angeu, gan ddwyn ei phlant i fyny yn addysg ac athrawiaeth. yr Arglwydd. Dyoddefodd ei hir gystudd, yn dawel, gan ymostwng i ewyllys ei Thad Nefol.
Yr oedd yn awyddus iawn yn ei chystudd i gael y cyfeillion i'w thŷ i weddio gyda hi.
Dydd Sadwrn, y 14eg, hebryngwyd ei gweddillion i'r capel, pryd y gweinyddwyd yn barchus gan ein gweinidog, Mr. Thomas; yna, er y gwlaw a'r eira, daeth tyrfa i'w hebrwng i'r gladdfa.
G. R. DAVIES.