MR. WILLIAM WILLIAMS. LONG CREEK, IOWA.

Mawrth 26ain, 1899, yn Long Creek, Iowa, William Williams, yn 28 oed.

Ganwyd ef yn Llanbedr, Gogledd Cymru. Daeth i'r America chwe' blynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Williamsburg, Iowa, am ddwy flynedd, ac oddiyno daeth i'r lle hwn, gan wneyd ei gartref gyda Evan Edwards, i'r hwn y bu yn gwasanaethu am bedair blynedd. Diwedd y flwyddyn ddiweddaf penderfynodd fyned i'r gwaith glo yn Sherrard, Illinois, lle cyfarfu â damwain, yr hyn a effeithiodd arno yn fawr, a chyn iddo lwyr wella cafodd anwyd, a sefydlodd yr eisglwyf yn ei ochr, a gwaethygodd. Mawrth 24ain, aeth dan driniaeth feddygol, ond byrhaodd hyny ei einioes; bu farw yn mhen tridiau.

Cafodd y gofal a'r tynerwch mwyaf yn bosibl gan Mr. a Mrs. Evan Edwards a Mr. a Mrs. Thomas Williams, y rhai a symudodd ar y fferm yn eu lle. Hefyd, bu rhai o ddynion ieuainc yr ardal yn hynod ffyddlon yn gweinyddu iddo y nosweithiau hyd ddydd ei farwolaeth. Dyoddefodd ei gystudd yn hynod amyneddgar, a thystiodd wrthyf ei fod yn dal cymundeb agos mewn myfyrdod a gweddi ar ei Dduw.

Cafodd angladd anrhydeddus, a daeth tyrfa luosog yn nghyd, pryd y cafwyd gwasanaeth yn addoldy yr Annibynwyr, a gweinyddwyd gan y Parch. J. T. Morris (T. C.) a'r ysgrifenydd.

Dymunir ar bapyrau Cymru godi yr uchod er mwyn perthynasau yr ymadawedig.
LLOYD WILLIAMS.

Y Drych ~ Ebrill 13eg 1899.