MR. WILLIAM R. OWEN, CATFISH RIVER, WISCONSIN.

DAMWAIN ALARUS.

Ar yr 17eg o Orphenaf, cyfarfu llangc o'r enw William R. Owen â'i angeu yn ddisymwth, wrth geisio croesi afon Catfish. Ar ei daith yr oedd o'r sefydliad hwn (Columbus, Wisconsin.) i sefydliad Union. Wedi camgymeryd y ffordd, arweiniwyd ef i le dwfn ar yr afon, ac yntau heb wybod y perygl, a ymdrechodd yn ofer fyned trwodd.

Mab ydoedd i Mr. Robert Owen, gynt, o Ty'n-y-fawnog, Llanllyfni, sir Gaernarfon, Cymru.

Yr oedd yn grefyddwr o'i febyd; ac wedi myned yn fawr, a wrthododd gyd-ymffurfio â'r byd hwn, gan ddewis yn hytrach filwrio gyda phobl Dduw, nac ymollwng gyda themtasiynau y byd. Nis gallwn feddwl i'r Pen Cadben mawr ei adael yn yr ymdrech olaf - O na : er methu croesi y Catfish, cafodd groesi yr hen Iorddonen yn ddiogel yn ei law Ef, a'i ddwyn i'r Ganaan nefol.

Am William Owen mae fy meddwl,
Mewn rhyw syndod ambell awr;
Gan mor ddisymwth y daeth angeu,
Ar ei siwrnai i'w dori 'lawr:
Myn'd oddieartre'n iach a heiny',
Gan feddwl cyrhaedd pen ei daith;
Ond angeu'n sydyn a'i cyfarfu,
Fe'i suddodd obry'r lletty llaith.

Ei deulu'n drist a deimlant alar -
Gan yr ergyd cawsant glwy';
Ond er tywallt dagrau'n helaeth,
Ni ddychwel eilwaith atynt hwy;
Ond cysur cryf i'w holl berth'nasau,
Yw meddwl fod e'n ofni Duw -
A'r sawl yn Nghrist a ymidiriedo,
Er iddo farw a fydd byw.

Mae hyn yn rhybydd dwys i ninau,
I ymbar'toi o awr i awr;
Rhai ar ein siwrnai ydym yma,
Draw i'r trag'wyddoldeb mawr:
O 'mofynwn am dduwioldeb,
Cyn darfyddo'n bywyd brau;
O am 'nabod Iesu'n briod,
Mae dydd trallod yn nesau.

Gwilym Celynog.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1848.