MR. GRIFFITH PARRY, PUCKAWAY LAKE, WISCONSIN.
Cyhoeddir yma farwolaeth Mr. Griffith Parry, diweddar o Fodryn, sir Gaernarfon, Cymru.Ymfudodd i Wisconsin yn gynar yn y flwyddyn 1845. Ymsefydlodd ar lan Llyn Puckaway, yn bellaf i'r Gorllewin-Ogledd o'r un Cymro.
Yr ydoedd yn mwynhau iechyd da yn gyffredinol, hyd y bythgofiadwy ddydd Gwener tywyll, yr lleg o Chwefror, 1848, pryd y gadawodd y tŷ yn berffaith iach, oddeutu deg ar gloch y boreu; ond yn mhen hanner awr, fe'i cafwyd ef gan un o'r teulu, yn gorwedd ar ei wyneb, mewn llewyg -'fit o'r palsy' fel y tybir: cariwyd ef i'r tŷ mewn sefylífa ddideimlad, ac anwybodus iddo ei hunan. Felly heb ddywedyd gair, bu farw cyn deuddeg o'r gloch, yr un diwrnod, pan yn ychydig o fisoedd dros 60 mlwydd oed.
Noson cyn y claddedigaeth, anerchwyd lluaws o'r Cymry a'r Americaniaid, gan eich gohebydd, oddiwrth y geiriau hyny, 'Wele yr wyf yn dyfod fel lleidr: gwyn ei fyd y neb sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, rhag iddo rodio yn noeth,' a.y.
Dranoeth, hebryngwyd ei gorff gan luaws o'i gymydogion galarus, i fynwent newydd, yn sefydliad Rock Hill. Yn ei farwolaeth, collwyd o'u cymydogaeth - collwyd o'n byd, briod serchog, tad tirion, a chymydog hynaws, cymeradwy a pharchus, gan bob cenedl a'i hadwaenai - ei ymddygiad siriol a charedig yn ei dŷ croesawgar, a bery yn fy meddwl, cyhyd ag y lletya y lliw lleiaf o gof am dano; ond heddyw, 'eî le nid edwyn ddim o hono ef mwy.' Cerddodd y llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwel, a hyny heb gael ond ychydig o rybydd gan frenin y dychryniadau; mae teimladau ei deulu wedi eu dryllio - cwmwl o drallod wedi toi ein cymydogaeth. O! yr oedd ei dŷ mewn gwirionedd yn dŷ galar - angeu wedi diangc gyda'i ysglyfaeth, mewn llai na dwy awr o'i ymddangosiad cyntaf: ni adawodd i'n llygaid i'w weled ar ei ôl, ond y natur ddynol yn eithaf ei dinystr - ei gorff wedi ei roddi yn gydwastad â'r llawr, a'i enaid anfarwol wedi ehedfan, a'i sefydlu byth, yn y byd anadnabyddus hwnw, lle mae Lazarus 'yn cael ei ddyddanu, a'r goludog ei boeni.'