MRS. ELINOR PUGH UTICA, EFROG NEWYDD.

Ar y 29ain o Dachwedd 1848, yn Utica, Mrs. Elinor Pugh, gwraig i Humphrey H. Pugh, yn 27 mlwydd a 6 mis oed.

Merch ydoedd yr ymadawedig i William a Laura Williams, gynt o Lanbedrog, swydd Gaernarfon.

Ymfudodd i'r wlad hon tua 18 mlynedd yn ol. Bu yn briod 7 mlynedd. Gadawodd ei phriod a thri o blant bychain i alaru ar ei hol. Yr oedd wedi proffesu crefydd am tua 10 mlynedd. Cafodd ei magu i fyny yn grefyddol gan ei rhieni yn nghymundeb y Trefnyddion Calfinaidd. Derbyniwyd hi yn aelod gan y Parch. James Grifliths, yn yr eglwys Gynulleidfa yn Utica; ond yn yr eglwys Annibynol yr ydoedd y blynyddau olaf o'i hoes.

Ei chystudd ydoedd y darfodedigaath. Yn y tymhor hirfaith o gystudd a gafodd, cafwyd amryw gyfeillachau melus gyda hi ar fin yr afon. Un brawd ar ol bod yn ymweled â hi a dystia ei bod yn oleu ar ei meddwi — ei bod yn gwbl dawel, yn cwbl ymorphwys ar Iesu y Gwaredwr, - yn galaru na buasai wedi byw yn fwy ffyddlon drosto yn ei thymor, - yn dymuno i'w chyd gristionogion a phawb i fod yn fwy ymdrechgar dros Iesu - ac yu neillduol i barchu ei Sabbothau.

Gweinyddwyd yn ei chladdedigaeth gan y Parch. W. J. Jones a'r Parch. H. S. Dickinson.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1849.