MRS. CATHERINE ROBERTS, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 24ain, yn Steuben, swydd Oneida, Caerefrog Newydd, Mrs. Catherine Roberts, gwraig Mr. Humphrey Roberts, yn 72 mlwydd oed, wedi bod yn glaf am bum' mlynedd a hanner, gan y Parlys Mud; a bu am yr ysbaid hyny o amser heb allu ymsymud nac ymddyddan dim. Dechreuodd y drengedig ei gyrfa grefyddol yn y flwyddyn 1800, pan yn 24 mlwydd oed, pryd yr ymunodd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, cynnulledig yn nghapel Tŷ-mawr, Bryncroes, Lleyn, swydd Gaernarfon, Cymru.

Bu yno wedi hyny 31 o flynyddoedd, sef hyd yr amser yr ymfudodd hi a'i theulu i'r America, yn y flwyddyn 1831; a bu am 17 mlynedd yn aelod gyda'r T. C. yn Hebron (French Road), sef hyd ddiwedd ei gyrfa ddaearol. Bu yn proffesu 48 o flynyddoedd.

Ddydd Llun canlynol, ymgynullodd tyrfa luosog er gwneuthur y gymwynas olaf iddi, trwy hebrwng ei gweddillion marwol i fynwent Hebron. Pregethwyd ar yr achlysur. gan y Parch. J. E. Davies, Carbondale, Pennsylvania., oddiwrth 2 Cor. v. 1.

O chwi, holl ferched Hebron,
Mewn gwisgoedd duon de'wch;
Rhyw rybydd ar l rhybydd,
A galar beunydd gewch :
Fe gwympwyd un o'r mamiau,
Daeth angeu llym i'w nol;
Ni 'dawodd un yn'r eglwys,
Mwy hwylus ar ei hoi.

Sef Cath'rine Roberts hawddgar,
A ro'w'd i'r ddaear ddu;
Y pridd i'r pridd i orwedd,
Yn beraidd fel y bu;
CaifF orwedd yn y grafel,
Mewn hynod dawel hûn,
Nes delo'r Angel hwnw,
I alw'r dduwiol un.

Ca'dd ddyrnod dwys gan angeu,
Bump o flynyddau maith;
A hanner gyda hyny,
Cyn diwedd pen y daith;
Fe d'rawodd yn druenus,
Trwy'r parlys ar y pen;
A'r cyfan wedi'r cwbl,
I'w dwyn i'r nefoedd wen.

Mae'n canu heddyw'n beraidd,
Yn mhlith angylaidd lu,
'N ol d'od o afael angeu,
A'i boenan, fel y bu;
Mae'r tafod yn moliannu
Yr lesu mawr, a ro'es
Yr iawn anfeidrol hwnw,
Ar groesbren garw'r groes.

Er bod yn hir heb symud,
Na d'wedyd gair ar g'oedd,
Rho'es arwydd digon prydlawn,
I bawb, mai boddlawnoedd:
Hi alwodd am y Gyfrol,
Sef Llyfr y Dwyfol lys;
Hi nododd yno adnod,
O bennod,* gyda'i bys.

Hawdd gall Creawdwr dynion,
Ro'i cloion ar y clai,
A'n gosod dan ryw gerydd
Trwm, beunydd, am ein bai:
Gall roddi traed heb rodio,
A llaw heb deimlo, i'r dyn;
A giau heb ddim teimlad,
Mewn tyniad angliytun.

Rho'i llygad in' heb weled,
A chlust heb glywed gair,
A thafod heb lefaru -
Pa dristwch garw geir!
O gwelwn, fel gall ddattod
Ei hynod waith ei hun;
Gall dd'rysu troell naturiaeth,
Fu'n berffaith lanwaith lun.

Rhyfeddwn, ein gosodiad,
A'n cyfansoddiad, sydd
Yn wrthrych o ryfeddod,
Rhyfeddod byth a fydd:
O ddynion, de'wch, a gwelwch
Ddirgelwch yn y gwaith,
Na ellir ei amgyffred,
I drag'wyddoideb maith.

Rhesymol yw'r gwasanaeth,
Rho'i'n corff yn aberth byw;
O deuwch bawb i weled,
Bob dydd, mai'n dyied yw:
Rhaid ini oll ymddangos,
Mae'r dydd yn agosau;
Cawn fedi bawb ryw ddiwrnod,
Modd hynod fel bu'r hau.
J. B. W

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1848.