MRS. JANE ROBERTS, MILWAUKEE.
Ganwyd Mrs. Jane Roberts o rieni tra chrefyddol, sef Mr. John a Mrs. Anne Parry, Penychain, gerllaw Pwllheli, swydd Gaernarfon.Cafodd ddygiad i fynu crefyddol hefyd, hyd pan oedd yn 14eg mlwydd oed, pryd yr aeth i'r ysgol i Bwllheli, lle yr aeth yn lled wyllt a digrefydd, i ganlyn arferion cyffredin yr oes; ac wedi treulio yspaid yno, dychwelodd ac arhosodd y gweddill o'i hieuengctyd gyda ei modryb yn y Graianog, plwyf Clynog; ond nid oedd heb deimlo argraffiadau crefyddol ar ei meddwl, a gofid achlysurol oblegid ei phechodau.
Pan yn 21ain mlwydd oed, ymbriododd â Mr William Roberts, y pryd hyny o Pen-bont-y-cim, ac a aeth yno i fyw; ond yn mhen oddeutu tri mis ar ôl priodi, dechreuodd tywydd nodedig arni am fatter ei henaid; a pharhâodd felly gan ddwyshau fwyfwy am oddeutu chwe' mis, yn ystod pa amser yr wylodd lawer oblegid pechodau ei hieuengctyd, ac y defnyddiodd bob cyfle, nos a dydd, i dywallt ei hachos ger bron Duw, ac i ddarllen ei Beibl, ac ymddyddan am bethau crefyddol; ac eto heb allu rhoddi ei hun i'r eglwys gan ei hofnau; a mynych y dysgwyliai am fod noson y cyfarfod eglwysig yn hynod o ddrychinog, fel y byddai yno lai o nifer i'w gweled pan y delai i mewn. Ond ar ryw nos Sabboth, pan yn nghapel y T. C. yn Bryn-auraidd, er iddi orchfygu ei phenderfyniad, a myned allan o'r moddion cyhoeddus, syrthiai mewn llewyg wrth y drws, pan y daeth chwaer grefyddol i'w chynorthwyo, ac y gofynai iddi pa un a ddewisai ai aros allan a'i dyfod yn ôl i'r cyfarfod neillduol; atebodd hithau mai dyfod yn ôl: ac yna ni buasai waeth ganddi, meddai, pe gwelsai yr holl fyd hi.
Parhaodd yn dywydd mawr ar ei meddwl am yspaid, drachefn, hyd oni ddaeth y gair hwnw i'w meddwl, 'A gwaed Iesu Grist ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod.' Yna cafodd dawelwch, a dilynodd ymddygiad Cristion dysglaer o hyny allan. Cyfnewidiol oedd ei phrofiadau, a mynych y gofynai i'w theulu, a oeddynt yn gweled arwyddion o dduwioldeb ynddi a'i peidio; er hyny yr oedd ei thymherau yn wastad a siriol, yn amyneddgar yn ei phrofedigaethau, a diolchgar a gostyngedig yn ei llwyddiant; fel gwraig yn ddiwyd ac ymroddgar; fel mam yu dyner a gofalus; ac fel pen teulu yn cadw trefn, ac yn ofn i weithredoedd drwg. Defnyddiai bob cyfle ag egni i gynghori a rhybuddio ei gwasanaethwyr a'i phlant, yn neillduol y nos ac wrth deithio i foddion gras, a.y.; ymddyddanai a hwynt yn ddifrifddwys, rhag, meddai, na chai amser i wneuthur hyny wrth farw; ac aml dystiolaeth sydd yn nghydwybod llawer o'i gwasanaethwyr annuwiol, ac eraill o'i chydnabod, o'i duwioldeb a dwysder ei chyngorion, ac yn neillduol ei diwydrwydd a'i hymdrech i gael pawb i foddion gras; a chymaint oedd ei hoffder o honynt, ag y dymunai am gystudd byr wrth farw, rhag ei hymddifadu o honynt, ac nis cafodd ond pum niwrnod, ac eto nis gallasai beidio hiraethu am gynteddoedd y tŷ yn yr yspaid hwnw.
Dwys y cynghorai ei merched wrth eu hanfon i'r ysgol, rhag dilyn ei hesiampl hi yn ei hieueugctyd; ac aml y dywedai, mai barn arni hi am ei gwrthgiliad y pryd hwnw, oedd na buasai ei phriod yn proffesu crefydd gyda hi; ond gellir dyweyd fod ei hymddygiadau hi wedi ei ennill ef i barchu crefydd yn fawr. Annogai ei phlant i fyned i lygad y ffynnon i geisio eu dymuniadau, sef at orseddd gras; gan adrodd ei llwyddiant ei hun gyd a'i Thad. Bu farw dau o'i meibion mewn oed; un âg arwyddion neillduol o dduwioldeb arno, yr hwn a'i bendithiai â'i anadliad olaf am ei chynghorion; ac ar bwys ei gweddi aeth i dangnefedd. Y llall a edifarheai yn ddwys am ei wrthgiliad, a diolchai iddi hyd yn nod am ei cheryddon, a galarai am na buasai yn derbyn ei haddysg; cafodd rai arwyddion gobeithiol ynddo, ac ymdawelodd yn ei meddwl ei fod wedi myned at Dduw cyfiawn.
Yr oedd hi yn nodedig hefyd am ei haelioni, a'i gofal dros achos Crist; a hyn oedd un o'i phrif ddybenion yn ymfudo i America; gwelai yma faes helaeth i weithio dros Dduw, a'i dymuniad parhaus, a'i phenderfyniad wrth ddyfod oedd codi a chynnal achos ei Harglwydd yn y wlad newydd; a dywedai pe na chawsai ond tŷ a dwy ystafell ynddo, y cysegrai un o bonynt at wasanaeth gweinidogion yr efengyl; a thrwy gydsyniad ei theulu, darparai anrheg hardd cyn cychwyn o Gymru, i'w chyflwyno at achos Duw yn eithafion y Gorllewin; a chynghorai ei phlant i fod bob amser yn helaeth at yr un achos godidog : ac nid oedd na thrafferth na therfysg yn ei holl daith a'i rhwystrai yn ei chyfeillach a'i Duw.
Un boreu pan ar y mor, dywedai wrth ei phlant, Bum yn sâl iawn neithiwr, a bum ar fedr galw am eich cynnorthwy, ond yn lle eich aflonyddu, gelwais ar fy Nhad, ac anfonodd efe air ataf a'm hiachaodd yn llawer gwell na'r meddyg goreu. Bu tro arall tra neillduol, pan oeddynt yn nghyffiniau bryniau Newfoundland, amgauodd niwl arnynt am amryw o ddyddiau yn olynol, hyd onid oedd meistr y llong, a phawb braidd, wedi myned yn anesmwyth iawn, yn methu gwybod yn mha le yr oeddynt, ac yn ofni myned yn llongddrylliad arnynt yn ddisymwth; pan wybu hi hyny, gwelid hi gan un o'r dynion yn ymneillduo yn ddirgelaidd a digyffro i gongl dywyll yn yr hold i weddio; yna rhedai y dyn at ei gymdeithion gan sicrhau iddynt y codai y niwl yn ebrwydd, bod Mrs. R. wedi myned i weddio.
Yn mhen ennyd daeth i fynu, a gofynai a oedd y niwl yn clirio? atebid hi yn nacaol; aeth hithau i lawr yr un modd drachefn fel Elias gynt, ac erbyn ei dyfod i fynu yr ail waith, yr oedd y niwl wedi dechreu clirio, a'r morwyr yn llawenhau, a chanfuant eu bod yn ymyl craig fawr, ac y buasent wedi myned yn chwilfriw arni, pe buasai yn parhau yn dywyll am bymtheng mynud yn rhagor. 'Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn,' ac O mor werthfawr ydyw yn mhob amgylchiad.
Ni bu cystydd diweddaf Mrs. Roberts ond byr, fel y soniwyd; cymerwyd hi yn glaf ar y ffordd haiarn yn agos i Buffalo, ond mynwesid gobaith am ei gwellhad drachefn ar ôl cyrhaedd y dref, ond wedi myned i'r agerddfad, gwanhaodd yn ddirfawr, ac ni chododd mwy. Gwanaidd a dyrus ydoedd y rhan amlaf yn ei chlefyd, ond pan y cai ychydig hamdden, yr oedd megis yn nghanol cyfeillach ddirgelaidd a'i Thad, a gofynai a oedd y tir yn agos, fel y gallai fwynhau yr hyfrydwch o fyned i dŷ Dduw drachefn; ond gan ymattal eilwaith, dywedai, efallai na chaf y fraint hono yma, er y dymunwn gael byw ychydig er eich mwyn chwi, fy mhlant, ac er mwyn achos Duw, eto byddai yn llawer iawn gwell i mi gael fy nattod, a bod gyda Christ yn wastadol; os af, meddai, peidiwch a grwgnach, cewch gwyno y faint a fynnoch, ond peidiwch a grwgnach. Yna gan arwyddo fod ei hymddattodiad gerllaw, ac hefyd na byddai ei phriod fyw ond ychydig ar ei hol, rhoddai ofal y teulu i'r ferch henaf, ac ymdrechai i'w chysuro a'i chalonogi yn wylaidd a siriol; ac un o'i hymadroddion olaf yn ddealladwy oedd, 'y cân cymaint yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.'
Yn fuan wedi cyrhaedd o'r bâd arhosfa Milwaukie, Wisconsin, gorchymynai y llywydd i'r teulu ymadael o'r bâdfel eraill, i'r hyn yr oedd yn lled anhawdd ufuddhau gyda brys, gan ei bod hi mor wan, a'i dwy ferch ieuangaf yn glaf iawn hefyd; ond gan fod y gorchymyn yn gaeth, ymdrechid ei chodi i'r gadair, a rhoddi ei dillad am dani, ond yr oedd yn rhy wan; ei natur a ymollyngai, a'r wreichionen ysbrydol a gymerai ei ehedfa fry i'r wlad sydd yn
Dawel, o afael gofid,
A'i thre' o goeth aur i gyd.
Gellir tybied ei bod yn drallod nid bychan ar ei theulu galarus yn bresennol; ei cholli yn y fath adeg brysur a dyrys, pan yn wynebu i wlad estronawl; heb gâr na chyfaill i'w derbyn, na gwyneb Cymro i'w croesawi, a rhan o honynt yn goddef dan yr un clefyd, sef y llong-dwymyn, ac yn anobeithiol am adferiad. Ond wedi peth arosiad derbynid hwy yn lleteugar i dŷ yr haeddbarch Gymro, Mr. Morgans. Tranoeth rhoddid rhan farwol y drancedig i orwedd yn mynwent Milwaukee, hyd ganiad udgorn ei Phrynwr; ac yn mhen y pymthegnos union, gorweddai corff ei phriod, Mr. William Roberts, yn ei hymyl.
Bu farw o'r un clefyd a hithau, ef yn 55, a hithau yn 50 mlwydd oed; ac o'r braidd y diangodd eu pedwar plentyn rhag eu dilyn ar hyd yr un llwybr. Amlygid cyd-ymdeimlad neillduol â hwynt gan y trigolion cylchynol, a phawb o'u cydnabod; a theimlant yn ddiolchgar i bawb o'u cymwynaswyr, ond yn neillduol i Dad yr amddifaid, yr hwn a'u cynnaliodd yn rhyfeddol trwy air ei ras, gan ddyddanu eu calonau yn y profedigaethau chwerwaf; ac hefyd ymdeimlant yn ddiolchgar iawn am eu bod wedi cael dyfod drosodd i'r wlad hon, ac na buasent yn cyfarfod y cyfryw drallodion yn ngwlad eu genedigaeth, lle y gallasai llawer dyryswch eu cyfarfod ar ôl colli eu rhieni.