MR. ROBERT RICHARD ROBERTS, TURIN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.

COFIANT MR. ROBERT RICHARD ROBERTS. TURIN. Yr oedd gwrthrych y Cofiant hwn yn fab i Richard a Jane Roberts, Pont y Gof, Lleyn, swydd Gaernarfon, - yr ieuangaf o 3 o blant. Enwau y ddau eraill oeddynt Mary a Daniel. Y Daniel hwn ydoedd yr enwog Dr. Daniel Roberts, yr hwn a fu yn feddyg clodifawr a llwyddiannus yn mhlith Cymry a Saeson yn Steuben a'r amgylchoedd dros amryw flynyddoedd.

Ganwyd gwrthrych y cofiant hwn mewn lle a elwid Saithbont, yn yr un swydd, Mehefin. 13eg, 1777. Ymunodd yn y stad briodasol ag Elizabeth, merch i Robert Williams a'i briod, Penygraig, Llangwnad, Lleyn, yn Y flwyddyn 1809. Rhoddodd yr Arglwydd iddynt 10 o blant - 6 o ba rai sydd yn awr yn fyw. Ymfudasant i'r wlad hon o'r lle uchod yn y flwyddyn 1819, a daethant i fyw yn uniongyrchol i Steuben, swydd Oneida. Symudasant i Turin, swydd Lewis, Caerefrog Newydd, er's tua 10 mlynedd yn ôl.

Yr oedd Mr. Roberts yn meddu gwybodaeth lled helaeth - yn fwy felly na'r cyfFredin yn ôl ei fanteision. Yr oedd ei hyfrydwch mewn darllen ac ymofyn am wybodaeth. Nid yn aml yr oedd gwell darllenwr nag ef. Yr oedd o ran ei gorph yn ddyn cryf gwrol yn ei ddydd. Y mae ei feibion yn dwyn ei ddelw yn y pethau a enwyd. Treuliodd Mr. Roberts y rhan fwyaf o'î oes heb wneud proffes o grefydd. Eto ymwelodd yr Arglwydd a'i gyflwr mewn modd achubol tua phum' mlynedd yu ôl, ac ymunodd gydag eglwys y Bedyddwyr yn Turin Corners, - a rhyw bum' mlynedd rhyfedd oedd y rhai hyn. Gellir dywedyd fod y blynyddoedd hyn wedi bod yn amser wylo a galar, wrth iddo edrych yn ôl ar flynyddoedd ei oes wedi eu treulio mewn gwrthryfel a gelyniaeth yn erbyn Duw a'i oruchwyliaethau.

Hyfryd fyddai gwraudo arno yn adrodd ei brofiad a'i ddagrau yn hidl, fel rhyw bentewyn wedi ei achub o'r gyneuedig dân. Byddai yn rhyfeddu mawredd trugaredd Duw yn achub hen bechadur wedi haeddu ei ddamnio. Llawer gwaith y dywedodd nad oedd ganddo ddim am ei fywyd ond y gŵr fu ar y groes, ac y mae yn ddigon i fy math inau, meddai, - mae'r ffynon fel y grisial yn ngwlad y cystudd mawr.

Yn ystod ei fywyd crefyddol byddai yn barod iawn i gynghori pawb i ymofyn am grefydd yn moreu eu hoes. Nid gwneud fel y gwneuthum i, - rhoddi fy nyddiau goreu at wasanaeth yr un drwg, a gwynebu am le yn nhŷ Dduw megys yn yr hwyr, pan mae fy haul ar fachludo. Byddai yn cynghori ei deulu yn ddifrifol a sobr i ymbaratoi erbyn dydd eu hymddattodiad, yn enwedig ei briod, - i ddod i ymofyn am y Priod a ddeil yn y bwlch cyfyng. Yr oedd yn ffyddlon iawn gyda y ddyledswydd deuluaidd tra y bu yn alluog o ran ei gorph i'w chyflawni.

Byddai yn ymdrechgar i fyned i foddion gras tra y bu yn alluog. Ond yn ei ddyddiau diweddaf yr oedd yn analluog i fyned i dŷ yr Arglwydd o ran ei gorph, er fod ei feddwl yn fywiog yn y gwaith. Pan felly yn amser ei gystudd diweddaf, dymunai ar ei frodyr ddod i'w anedd i gynal cyrddau gweddi mor aml ag y gallent, a buwyd yno amryw weithiau. Yn ôl ei dystiolaeth, ni chawsai erioed y fath gyfarfodydd a rhai a gawsom yn ei ddyddiau diweddaf, - yr oedd yn nefoedd a.r y ddaear Byddai yr hen frawd yn hiraethu am amser y cwrdd gweddi. Llawer gwaith y dywedodd,

"Mae y gymdeithas yma yn gref
Ond vn y nef hi fydd yn fwy."

Fel yr oedd yn nesu at ddydd ei ymadawiad yr oedd yr ychydig bethau sydd rhyngom fel enwadau crefyddol yu myned llai llai, nes yr oedd yn barod i edrych ar bawb o ganlynwyr yr Oen fel i un teulu - plant yr un Tad, rhyfelwyr dan yr un, cadben mawr. Buan y delo yr amser ag y byddom yn meddu yr un egwyddor werthfawr.

Natur ei afiechyd oedd y dyfrglwyf a diffyg anadl. Bu farw Mehefin 16eg, 1848. Ar achlysur ei gladdedigaeth darllenodd a gweddiodd yr ysgrifenydd cyn cychwyn o'r tŷ, a hebryngwyd ei ran farwol i fonwent Tuck Hill. Pregethodd y Parch. William Roberts oddiwrth Num. 14: 24, a'r Parch. R. Streeter yn Saesoneg oddiwrth Ioan 17 : 2.
Ydwyf dros y teulu.
D. E. Prichard. Turin.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1849.