MR. WILLIAM ROBERTS, LEHIGH GAP, PENNSYLVANIA.

Yn Lehigh Gap, Pennsylvania., Mr. William Roberts, mab Mr. John Roberts, Glyn Meibion, Llandwrog, ger Caernarfon, Gogledd Cymru.

Ionawr 14eg 1848, tarawyd ef gan afiechyd y Geri (Bilious Fever), a bu farw y 29ain, hanner awr wedi hanner nos.

Ar y dydd canlynol, hebryngwyd ei ran farwol i'r Fynwent Ellmynaidd, ger Cherry-ville. Cyn cychwyn y corff, traddodwyd pregeth, ar yr achlysnr, gan Mr. John Jones, Craneville, oddiar 2 Pedr i. 11.

Yr oedd holl Gymry y cymydogaethau, yn gyffredinol, yn yr angladd, yn nghyd a channoedd o Ellmyuniaid.

Ei oedran ydoedd 23 mlwydd. - 'Am hyny byddwn ninau barod, canys yn yr awr ni thybiom y daw Mab y dyn.'
R. M. Jones.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1848.