MRS. ANN WILLIAMS, NEW YORK.
Tachwedd 25ain, yn y ddinas hon (Caerefrog-Newydd), wedi cystudd maith a phoenus, bu farw Mrs. Ann Williams, yn 94 oed.Yr oedd y drengedig yn enedigol o Lanllyfni, sir Gaernarfon, Cymru; o ba le y symudasai pan yn ieuangc i Àmlwch, sir Fon, ac yno yr ymunodd âg eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, a bu yn aelod crefyddol dros driugain mlynedd.
Daeth i'r wlad hon gyda'i gŵr, Mr. Robert Williams, a phump o blant, yn y flwyddyn 1801, a threuliodd y rhan fwyaf o'i hamser yn y ddinas hon wedi hyny: yma y bu farw ei gŵr.
Bu am tua 13 o flynyddoedd yn sir Oneida, gerllaw Remsen; oddiyno dychwelodd yma tua phum' mlynedd yn ôl. Yr oedd ei chyfansoddiad yn gryf ac iachus iawn, (er ei bod wedi colli ei golwg er ys tair blynedd yn ôl,) hyd o fewn saith mis cyn ei marwolaeth, pryd y cafodd gwymp wrth geisio myned o'r naill ystafell i'r llall: o'r pryd hwnw ni chododd o'i gwely, ond dadfeiliodd ei phabell briddlyd yn raddol, a dyoddefodd lawer iawn o boen, nes ei gollwng i'r byd mawr tragywyddol.
Fel crefyddwraig yr oedd yn selog hyd ei diwedd dros Iesu Grist a'i achos. Cedwid cyfarfodydd gweddi yn aml yn ei thŷ yn y ddinas hon, cyn bod yma un capel, na lle sefydlog i gynnal moddion gras yn yr iaith Gymreig. Ni bu erioed allan o gymundeb. Hiraethai lawer am gael myned adref yn ei chystndd diweddaf, a'i gweddi aml oedd, 'Gollwng fi, Arglwydd;' eto dywedai ei bod yn dawel i ddyoddef ychwaneg, ac aros yn hŵy, os hyny a ewyllysiai ei Thad nefol.
Gweinyddwyd Swper yr Arglwydd iddi droion yn ei hystafell wely, a byddai ei chlywed yn adrodd ei phrofiadau ar y cyfryw achlysuron, yn fynych yn cynnyrchu gwledd ysbrydol, a mwyniant mawr, i'r rhai fyddent yn wyddfodol. Adroddai lawer o emynau, a chanai hwynt yn beraidd hyd y gallai. Yn mhlith ei phennillion mwyaf hoff a dewisol yr oedd y rhai canlynol:—
'Mae Sion wan yn gruddfan tan y groes,'a.y.
'Mae eglwys Dduw trwy'r ddae'r a'r nef yn un,' a.y.
'Mae'r iachawdwriaeth fel y môr,' a.y.
'Trag'wyddol Sabboth gyda'r Oen,
Heb friw na phoen na gofid,' a.y.
'Mi gysgaf hün yn dawel,
Dros ennyd yn y grafel,' a.y.
Yr oedd yn wybyddus fod amser ei hymddattodiad wedi dod y prydnawn cyn ei marw. Dywedai nad oedd yn teimlo ofn marw, oblegid ei bod wedi rhoddi ei hunan i Un oedd yn abl i gadw; a diolchai lawer gwaith, fod colyn angeu wedi ei dynu erbyn y diwrnod hwnw. Gyda'i merch, Mrs. Griffiths, yr hon hefyd sydd yn weddw yn awr, yr oedd y drengedig o'r amser y bu farw ei gr hyd ei marwolaeth. Un plentyn, sef y Mrs. Grifriths grybwylledig, yr hon oedd yr ieuangaf o naw, sydd yn ei goroesi; ond y mae yn byw ar ei hol un-ar-bymtheg o ŵyrion, a deuddeg o orwyrion.
Rhoddodd destyn i'r Brawd W. Rowlands, pan yn glaf, i bregethu oddiarno ar achlysur ei marwolaeth, sef Salm xxiii. 1 - 'Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Brawd hwnw ar awr ei chladdedigaeth, a chyhoeddai y byddai iddo lefaru ar y testyn dewisedig y nos Sabboth canlynol, sef Rhagfyr 3ydd.
Hebryngwyd ei chorff i'r un bedd a'i gŵr yn Nghladdfa Stillwell, Heol y Gyntaf, lle y mae gan y teulu feddiant beddrod er ys chwe' mlynedd ar hugain, sef er pan y claddwyd gŵr y drengedig.