MR. DAVID ELLIS WILLIAMS, SALEM, NEW JERSEY.

Yr oedd Mr. David William Ellis yn enedigol a Sir Gaernarfon. Ganwyd ef yn y Ffrith, Sarn Meillteyrn, sir Gaernarfon, Awst 1af, 1784.

Yr oedd yn frawd i Mrs. Elizabeth Prichard o'r Glyn, Steuben. Ymfadodd i America yn y flwyddyn 1800. Yr hyn a ganlyn o'i hanes a dderbyniwyd oddiwrth ei fab Mr. Robert H. Williams, o ddinas Philadelphia, mewn llythyr at ei fodryb Mrs. Prichard. Philadelphia, Mehefin 7fed, 1859.

Fy Anwyl Fodryb, - Cefais air oddiwrthych ychydig ddyddiau yn ôl yn hysbysu y buasech yn hoffi cael ychydig o hanes eich brawd (fy nhad,) a chan gystal ag y gallaf roddi yr hanes gwnaf hyny yn awr.

Fel y gwyddoch, efe a aeth i Salem, Jersey Newydd yn mis Gorphenaf, yn y flwyddyn 1800, yr 16eg mlwydd o'i oedran, gan ymrwymo i fyw gyda Mr. Thomas Jones, hyd oni ddeuai i'w oed. Arosodd gydag ef hyd 21 oed, a ffurfid y fath gyfelllgarwch ag a barhaodd hyd angau, ac ar ôl marwolaeth yr hen ŵr parhaodd yr un cyfeillgarwch rhwng fy nhad a'i deulu ef. Ar ôl dyfod yn 21 oed, aeth i ddysgu y gelfyddyd o saer coed, yr hon gelfyddyd a ddylynydd dros y gweddill o'i fywyd. Daeth i arddel crefydd Mab Duw yn moreu ei oes, ac ymunodd a'r Trefnyddion Egobaethol, ond yn mha flwyddyn nis gallaf ddweyd gyda sicrwydd - ond gwn ei fod yn aelod mor foreu a'r flwyddyn 1810, a pharhaodd ei aelodaeth hyd ei farwolaeth.

Yn mis Medi, 1816, ymunodd mewn priodas â Miss Margaret Cattell, a bu iddynt bedwar o blant, tri o ba rai ydynt yn awr yn fyw - yr hynaf (sef fy hunan) a'r ddwy ferch nesaf. Bu fy anwyl fam farw yn mis Mehefin, 1830, ac yn mis Hydref 1832, priododd fy nhad eilwaith â Miss Lummis, a bu iddynt bedwar o blant, ond nid oes ond un ohonynt yn fyw.

Parhaodd i fyw yn Salem, Jersey Newydd, (oddieithr yr amser a dreuliodd gyda ei fam a rhan o'r flwyddyn 1810 yn y ddinas hon) hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn mis Medi 1848. Bu fyw yn deilwng o'i broffes fel Cristion er fy nghofion boreuaf, ac nid wyf yn amheu nad yw yn ddedwydd yn awr yn mhreswylfeydd y rhai bendigedig. Yr oedd yn dad tyner ac yn briod hoffus, a mwynhaodd gymeradwyaeth a pharch ei gydnabyddion yn gyffredinol. Heb y manteision o addysg foreuol, trefnodd ei achosion gyda doethineb,cynhaliodd gartref cysurus i'w deulu, a rhoddodd y fantais o addysg gyffredin dda i'w blant. Fy chwaer bynaf â briododd amryw flynyddau cyn marwolaeth fy nhad, ac y mae yn byw yn Schuylkill, ger Philadelphia. Mae fy chwaer ieuangaf yn byw yn y ddinas hon, heb briodi. Yr wyf fi yn briod ers saith mlynedd.

Buasai yn dda genyf allu ymweled â chwi, ond nis gallaf yn awr. Byddai yn hoff genyf glywed oddiwrth fy mherthynasau, y rhai er nad wyf yn eu hadnabod yr wyf yn teimlo cariad atynt, fel unig berthynasau fy anwyl dad (heblaw ei deulu) yn y wlad hon.

Yr eiddoch yn serchus, ROBERT H. WlLLIAMS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1859.