MRS. ELIZABETH WILLIAMS, STEUBEN, NEW YORK.
Yn Steuben, Ionawr 9fed, 1848, Mrs. Elizabeth Williams, gwraig Mr. John G. Williams (gynt o Bant y Braenar, Llanengan, Gogledd Cymru).Bu yn aelod dros amryw flynyddoedd o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben.
Bu yn gystuddiol o'r parlys dros hir amser. Hoffai yn fawr gyfeillach ei brodyr a'i chwiorydd crefyddol, y rhai a gynalient eu cwrdd gweddi wythnosol arferedig yn ei thŷ anedd. Ail darawiad o'r parlys a derfynodd ei gyrfa ddaerol, ar ôl bod 8 o ddyddiau heb allu dyweyd un gair.
Pregethwyd ar achlysur y farwolaeth gan y Parch. Morris Roberts, ac ar y Sabboth canlynol gan y Parch. R. Everett, oddiwrth y testynau Job 7 : 16 a Heb. 1 : 16.