MARGARET WILLIAMS, LEHIGH GAP, PENNSYLVANIA.
Hydref 19eg, 1848, Yn Lehigh Gap, Pennsylvania, yn 1 flwydd 2 fis ac 20 niwrnod oed, Margaret, merch i Mr. Morris M. ac Eleanor Williams, gynt o'r Waunfawr, plwyf Llanbeblig, sir Gaernarfon, Cymru.Ar ddydd Sadwrn, yr 21ain, ymgynnullodd torf luosog o Gymry, a llawer iawn o Ellmyniaid, i weinyddu y gymwynas olaf iddi. Canwyd geiriau hynod o briodol ar yr achlysur, gan y Cymry; a dywedwyd ychydig gan Weinidog yr Ellmyniaid, cyn cychwyn tua'r gladdfa. Yna cychwynwyd tua'r fynwent berthynol i eglwys yr Ellmyniaid, yn Cherryrille, lle y dodwyd ei rhan farwol; a chanwyd yn deilwng i'r amgylchiad a phregethwyd gan y Gweinidog uchod.