MRS. ANN BENJAMIN, TRENTON, NEW YORK.

Bu farw Mrs. Ann Benjamin, Hydref 17eg, 1849, priod Mr. Thomas Benjamin, ger Pentref Newydd, plwyf Trenton, Efrog Newydd, yn 61 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Benjamin yn ferch i Mr. Evan a Mary Jones o bentref Nefyn, swydd Gaernarfon. Yr oedd yn mhlith y rhai cyntaf a unasant yn y gyfeilach grefyddol yn ffurfiad yr achos Annibynol yn Aberdaron, dan weinidogaeth y Parch. William Morris, pryd y mae genym le i obeithio iddi ddyfod i adnabyddiaeth brofiadol o Geidwad pechaduriaid.

Ymfudodd gyda'i theulu i America yng ngwanwyn 1832 - 17 mlynedd i'r gwanwyn diwethaf, ac o'r pryd hyny hyd ei marwolaeth bu yn aelod ffyddlon o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben.

Ei hanwyldeb a'i thynerwch fel mam a phriod a werthfawrogid yn fawr. Hir y teimlir yn y cylch teuluaidd y golled a gafwyd drwy ei marwolaeth. Yn nhy yr Arglwydd byddai yn effro a thoddedig dan y weinidogaeth - ac o ysbryd drylliog a phrofiadol yn y gyfeillach grefyddol. Am y capel a'r addoliad y soniai yn barhaus yn ei hymddyddianau a'i chyfeillion, - ymddangosai mai yno yr oedd ei chalon.

Cafodd gystudd trwm ychydig dros flwyddyn yn ol, ac ofnid y buasai yn suddo yn angeu y pryd hyny; a pharhaodd yn wael ac isel ei hiechyd o hyny hyd ei hymadawiad. Ond er mai gwael ydoedd yn mron o hyd, bu farw yn dra annysgwyliadwy o ddyfrglwyf y galon, fel y tybir.

Ei rhan farwol a ddodwyd yn y bedd yn mynwent y Capel Ucha, Steuben, a phregethwyd ar yr achlysur i dorf luosog a syml gan R. Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1849