MRS. ELLEN CHARLES, REMSEN, ONEIDA, NEW YORK.

Ar yr 28ain o Dachwedd, 1849, ar ei 60fed flwydd o'i hoedran, Mrs, Ellen Charles, gwraig Mr. Owen Charles o Remsen.

Merch ydoedd i John Prichard o Ynys Enlli; ganwyd a magwyd hi ar yr ynys hono.

Ymunodd mewn priodas pan yn 23 mlwydd oed, a pharhaodd yr undeb hwnw yn agos i 37 o flynyddau.

Ymunodd a chrefydd yn fuan ar ol priodi - yn Capel Ty Mawr, Lleyn, y derbyniwyd hi yn aelod o eglwys y T.C.

Ymfudasant i America yn y flwyddyn 1818, ac ymsefydlasant yn ardal Pen y Caerau, plwyf Remsen; yr oedd hi yn un yn sefydliad yr eglwys hono,a pharhaodd yn aelod ffyddlon yno hyd ei hangeu.

Fel gwraig, mam a chymdoges, yr oedd yn un o'r gwragedd rhinweddol; ac fel Cristion yn oedd yn rhagori ar lawer, yn ei pharodrwydd i son a siarad am bethau crefyddol, ei sirioldeb a'i mwyneidd-dra, ynghyd a'i gofal am achos yr Arglwydd, ac am ei ogoneddu yng ngwydd pawb. Yr oedd iddi air da gan pawb a'i hadwaenai. Cynghorodd lawer ar ei phriod yn ei bywyd i ymofyn am grefydd. Ond yn ei hangau ni allodd ddywedyd un gair, oherwydd ei chystudd oedd y parlys mud, ac ychydig o oriau y bu yn gwneud ei orchwyl. Gadawodd i alaru ar ei hol ei phriod ac wyth o blant, saith o'r cyfryw oeddynt bresenol yn ei hangladd.

Claddwyd hi yn Penycaerau, a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parch. David Williams.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1850