MR. ROBERT CHARLES, UTICA, NEW YORK.

Yn ninas Utica, Efrog Newydd, Mehefin 26ain, 1849, o'r rhyddai yn y cylla (diarrhea), Mr. Robert Charles, diweddar o Ffestiniog, tua 29 mlwydd oed, aelod gyda y Trefnyddion Calfinaidd.

Yr oedd y gwr hwn newydd gyrhaedd i'r wlad hon o Gymru. Daeth drosodd yn yr " Oregon," llong a berthynai i Mr. Davies o Borth Aethwy.

Ei wraig a fu farw ar y fordaith, felly hefyd eu hunig blentyn yu 18 misoedd ac wele yn awr y teulu bach yn gyflawn wedi eu mudo i ffordd yr holl ddaear. Bu farw tua 40 o bersonau ar y fordaith hon - 4 ohonynt o'r Cymry, sef, Hugh Williams, Ty'n y Pwll, Lligwd, Pen Rhos, Môn, (dyn ieuanc); William Davies, saer coed, o blwyf Cemaes, Mòn, wedi gadael gwraig a phlant yn Nghymru, - a Mrs. Charles a'i phlentyn fel y nodwyd uchod.

Gallwn ddweyd i Mr. Charles gael cymhorth meddyg medrus a gofalus, sef Mr. Hugh L. Williams, yr hwn a wnaeth a allai iddo, a chafdd bob ymgeledd gymhwys i'w sefyllfa - ond angeu a'i gorchfygodd, ac efe a ehedodd ymaith, a'i ran farwol a osodwyd yn y bedd yn nghladdfa y ddinas.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1849.