MR. ROBERT DAVIES, BEDFORD, LONG ISLAND, NEW YORK.

Rhagfyr 7fed 1849, yn Bedford, Ynys Hir, o'r Darymrediad Parhaus, yn 60 mlwydd oed, Robert Davies, gan adael gwraig ac un mab.

Ymfudodd i'r wlad hon er ys tua 15 mlynedd yn ôl, o blwyf Carnguwch, Lleyn, sir Gaernarfon. Ymunasai yn ddiweddar âg eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn New York.

Yr oedd yn ddyn diwyd a llafurus gyda'i orchwyl, diddrwg, di-dramgwydd a hoff gan bawb a'i' hadwaenai. Bu farw mewn gobaith, fel yr ydym yn hyderu, ar drugaredd Duw yn Nghrist.

Ymgynnullodd Cymry Brooklyn a'r cymydogion Americanaidd yn gyffredin ar y lOfed, i gyd-hebrwng ei ran farwol i gladdfa Cypress Hill, y Br. W. Rowlands, yn ôl dytnuniad y trengedig ychydig cyn marw, yn cyflawni y gwasanaeth crefyddol, ac yn cyfarch y gwyddfodolion ar yr achlysur.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1850.