MR. ROBERT ARTHUR, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ganwyd Robert Arthur yn Tyn y Graig Rhiw.

Priododd â Elin Prys o Rhiw ar yr 28ain o Awst 1779. Cawsant 10 o blant, rhai wedi marw yn ieuanc. Bu Elin farw yn 1817 yn 67 mlwydd oed.

Ymfudodd y teulu ar y llong Dickinson o borthladd Lerpwl yn 1823.

Rhestr o'r rhai oedd ar y llong :

Robert Arthur 80
Elizabeth Roberts 35
Ellin Roberts 30
Rees Roberts 32

Sarah Williams 30 Camgymeriad efo'r cyfenw. Mae'n debyg mai Sarah, priod William Hughes ydi hon fu farw yn 1862 yn 70 oed.
William Hughes - gŵr Sarah
Evan Roberts 11 - Mab Jane Roberts oedd wedi marw yn 1818 yn 30 oed.
Arthur Griffith 11
Elizabeth Griffith 9
Robert Griffith 5

Y tri plentyn uchod yn blant i un arall o'r merched fu farw yn ieuanc.
Ar y llong 'roedd y plant yn defnyddio'r cyfenw Roberts yn ôl yr hen drefn ond yn Amercia yn defnyddio'r cyfenw Arthur.

Glyn Roberts ~ Gorffennaf 2021.