MARGARET ELLIS. RACINE, WISCONSIN.
Gorphenaf 24ain, 1849, ger Racine, Wisconsin, Mrs. Margaret Ellis.Merch ydoedd i Edward ac Elen Jones, gynt o ardal Ffestiniog, ond yn bresennol ger Utica.
Priododd Mr. John Ellis, ger Harlech gynt, yn Utica, yn y flwyddyn 1846, a daethant i Wisconsin, a sefydlasant ger Racine.
Ar y 24ain o Orphenaf, anfonwyd brenin y dychryniadau i'r teulu, a chymerodd ei rhan ysbrydol o'r gymdeithas ddaearol i fwynhau cymdeithas llawer mwy ysbrydol a thragywyddol â Duw a'r Oen, yn mysg y rhai a berffeithiwyd, yr hyn oedd yn elw mawr iddi. Bu yn aelod o eglwys Crist gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am flwyddyn a hanner yn Wisconsin, ond cafodd ei dwyn i fynwes Abraham i fysg ei chyfeillion a'i brodyr, lle ni ddywed neb o'r preswylwyr, claf ydwyf - ac ni bydd nos yno - a'r oll yn canu am glwyf Calfaria fryn' yn ddiddiwedd.
Daeth lluaws o'r Cymry i ddanfon ei chorff i dŷ ei hir gartref, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan un o weinidogion yr efengyl ag oedd yn perthyn i'r Bedyddwyr, yn Saesonaeg.
J. J.